Fe fydd galw ar y Llywodraeth i gyflwyno mesurau brys i fynd i’r afael â diweithdra ­heddiw – mae disgwyl i’r ffigurau diweddara ddangos bod nifer y bobol ifanc di-waith wedi codi i fwy na miliwn.

Fe fydd na rybudd mai pobl ifanc rhwng 16 a 24 oedd sy’n dioddef waethaf oherwydd yr argyfwng economaidd.

Roedd nifer y di-waith ymhlith pobl ifainc wedi cyrraedd 991,000 fis diwethaf, y ffigwr uchaf ers i gofnodion ddechrau ym 1992, ac mae arbenigwyr yn darogan y bydd y ffigwr yn codi i dros filiwn heddiw.

Mae na ddarogan y bydd na gynnydd o 25,000 yn nifer y rhai sy’n ddi-waith ac yn hawlio budd-dal diweithdra ym mis Hydref, cynnydd am yr wythfed mis yn olynol.

Mae disgwyl i nifer y di-waith, gan gynnwys y rhai hynny sydd ddim yn hawlio budd-dal diweithdra, godi i 2.6 miliwn.

Dywedodd Howard Archer o IHS Global Insight bod hyn yn ddatblygiad “trist a phryderus” gan ddweud mai’r pryder mwyaf yw y bydd nifer o’r bobl ifainc sy’n ddi-waith heb swyddi am gyfnod hir oherwydd sefyllfa bregus yr economi.

Yn ôl Centrepoint, elusen sy’n helpu pobl ifainc  digartref, fe ddylai’r Llywodraeth gymryd camau i roi cymorth i bobl ifainc, i helpu i greu swyddi a phrentisiaethau yn arbennig i bobl ifainc.

Fe fydd y Prif Weinidog yn cynnal cyfarfod bore ma gydag arweinwyr busnes i drafod diweithdra ymhlith pobl ifainc.