Mi fydd y trafodaethau yn parhau rhwng Llywodraeth Cymru a’r gwrthbleidiau ar ôl i’r Llywodraeth golli pleidlais ar ei chyllideb ddrafft heno.
Heddiw yn Siambr y Cynulliad cafwyd dadl am ddwy awr wrth drafod y gyllideb ddrafft. Fe gyflwynodd Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol welliannau i’r gyllideb gan nad ydyn nhw’n credu bod yr hyn y mae’r Llywodraeth wedi ei gyflwyno yn ateb problemau Cymru.
Roedd Plaid Cymru wedi galw am fwy o bwyslais ar yr economi, tra bod y Ceidwadwyr yn galw am ragor o fuddsoddi mewn iechyd, a’r Democratiaid Rhyddfrydol eisiau mwy o arian ar gyfer addysg. Ond fe gafodd rhain a’r bleidlais ar y gyllideb ddrafft eu gwrthod prynhawn yma.
Yn ôl Paul Davies, Llefarydd Cyllid y Ceidwadwyr, mae’r bleidlais heddiw wedi anfon neges glir at y Prif Weinidog, gan ychwanegu nad oedd ei gyllideb ddrafft “yn ffit i bwrpas”.
“Mae ei amharodrwydd i fod yn hyblyg yn naïf. Dyw’r cynlluniau sydd wedi eu cyflwyno ddim yn mynd i’r afael â’r gwasanaeth iechyd, y system addysg na’r economi yng Nghymru.”
Dyw arweinydd Plaid Cymru chwaith ddim yn credu fod y gyllideb fel ag y mae hi yn ymateb i’r sefyllfa economaidd fregus.
“Mae cymunedau Cymru ar hyn o bryd yng nghanol argyfwng economaidd ac yr ydym ni ym Mhlaid Cymru yn benderfynol o orfodi’r llywodraeth i ymateb i’r argyfwng hwnnw,” meddai Ieuan Wyn Jones.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru Kirsty Williams bod hyn yn gyfle i Carwyn Jones brofi ei fod yn barod i gydweithio gyda pleidiau eraill.
Fe fydd pleidlais derfynol ar y gyllideb ar 6 Ragfyr.