Arlywydd Assad
Mae mwy na 70 o bobl wedi cael eu lladd mewn un diwrnod yn Syria.
Mae’n debyg bod y rhan fwyaf o’r rhai gafodd eu lladd ddoe yn filwyr Syriaidd yn dilyn ymosodiad arnyn nhw gan encilwyr y fyddin yn nhalaith Daraa.
Mae’r Arlywydd Bashar Assad wedi bod yn ceisio sathru ar y gwrthfyfelwyr yn ei wlad dros yr wyth mis diwethaf, ond wedi methu hyd yn hyn.
Mae’r Cenehdloedd Unedig yn amcangyfrif bod hyd at 3,500 o bobol wedi eu lladd yn ystod y brwydro gwaedlyd yn erbyn y gwrthyrfelwyr.
Ddoe, fe benderfynodd y Gynghrair Arabaidd i ddiarddel Syria o’r gynhrair.