Un o'r protestiadau yn Syria
Mae gweinidog tramor Syria wedi condemnio penderfyniad y Gynghrair Arabaidd i ddiarddel y wlad o’r gynhrair, gan ddweud fod y penderfyniad wedi ei ysgogi gan ddylanwad Americanaidd.
Mewn cynhadledd yn Damascus heddiw, dywedodd Walid al-Moallem fod cynllwynion yn erbyn Syria yn sicr o fethu.
Ail-bwysleisiodd y gweinidog gwahoddiad y wlad i’r Gynghrair Arabaidd ymweld â Syria yr wythnos hon, gydag unrhyw arolygwyr milwrol neu sifil fel y bo’r angen er mwyn gweithredu cynllun y Cynghrair Arabaidd er mwyn dod â’r brwydro gwaedlyd yn erbyn y gwrthryfelwyr yno i ben.
Mae’r wlad wedi gweld miloedd o bobol yn cael eu lladd yn ystod yr wyth mis o drafferthion, ers i wrthwynebwyr y llywodraeth ddechrau gwrthryfela, dim ond i deimlo dwrn llym y wladwriaeth ar eu pennau.
Mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif fod 3,500 wedi cael eu lladd yno ers mis Mawrth.
Pleidleisiodd y gynghrair o 22 aelod o blaid atal aelodaeth Syria o’r Gyngrhair Arabaidd nos Sadwrn, ym mhencadlys y Gynghrair yn Cairo.
Heddiw, mae adroddiadau’n dod o’r wlad fod adeiladau llysgenhadaeth y gwledydd sy’n gwrthwynebu llywodraeth yr Arlywydd Bashar Assad yn Syria wedi cael eu targedu gan ymgyrchwyr sy’n cefnogi’r llywodraeth, ac wedi achosi difrod sylweddol. Does dim adroddiadau bod pobol wedi eu hanafu gan yr ymosodiadau hyd yn hyn.
Daw’r newyddion diweddaraf hyn wrth i arweinwyr Ewrop gyfarfod ym Mrwsel heddiw er mwyn trafod cynyddu’r sancsiynnau ar Syria.