Colette Davies
Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei wraig tra ar  eu mis mel yn India wedi mynd o flaen llys am y tro cyntaf heddiw.

Bu farw  Colette Davies, 39, o Benybont-ar-Ogwr ar ôl iddi syrthio 80 o droedfeddi wrth ymyl afon ym mis Chwefror 2004.

Cafodd ei gŵr Peter Davies, 50, ei gyhuddo o’i llofruddiaeth ddoe ar ôl cael ei arestio yn Milton Keynes ddydd Iau. Bu Heddlu’r De yn ei holi yng Nghaerdydd.

Roedd Peter Davies a’i wraig wedi teithio i India ar eu mis mel, 14 mis ar ôl iddyn nhw briodi. Wythnos yn unig ar ôl iddyn nhw gychwyn eu mis mel fe syrthiodd Colette Davies oddiar bont yn Gaura yn nhalaith Himachal Pradesh.

Roedd yr heddlu yn India wedi  ymchwilio i’w marwolaeth cyn penderfynu nad oedd yr amgylchiadau yn amheus.

Ond yn ddiweddarach roedd  ditectifs o Heddlu’r De wedi teithio i India er mwyn ail-ymchwilio i’r achos, gan gyd-weithio gyda Heddlu Himachal Pradesh.

Fe ymddangosodd Davies o flaen Llys Ynadon Caerdydd heddiw, ar gyhuddiad o lofruddiaeth a dwy achos o dwyllo.

Cafodd Davies ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn mynd gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher, Tachwedd 16.