Bydd BBC Cymru yn rhyddhau CD o ganeuon llawn enwau babis er mwyn codi arian ar gyfer elusen Plant Mewn Angen Eleni.
Fe fydd CD Cân y Babis, gan Caryl Parry Jones, yn cael ei lansio ddydd Gwener yma, i gyd fynd â diwrnod Plant Mewn Angen y BBC – ac fe fydd holl elw’r gwerthiant yn mynd tuag at yr elusen.
Mae’r syniad wedi codi ei ben ers i Caryl Parry Jones ddechrau ysgrifennu caneuon cyfarch misol i fabanod newydd Cymru ar y rhaglen foreol y mae hi a Dafydd Du yn ei chyflwyno ar BBC Radio Cymru, wrth i famau a thadau a neiniau a theidiau Cymru gysylltu er mwyn rhoi cyfarchiad i’r babanod newydd-anedig.
“Mi drodd y syniad gwreiddiol o wneud roll-call o holl enwau’r mis yn syniad i wneud cân y mis i groesawu pwy bynnag oedd wedi glanio yn y byd y mis hwnnw,” meddai Caryl Parry Jones.
Mae eitem Cân y Babis bellach yn uchafbwynt misol ar y rhaglen – ac mae’r ymateb wedi bod mor dda nes eu bod nhw wedi penderfynu rhoi’r cyfan ar CD arbennig.
“Roedd ’na gymaint o bobol yn holi am gopïau o’r caneuon ar CD mi feddylion ni y byddai gwneud CD i’w gwerthu yn ffordd dda o godi arian i Plant Mewn Angen,” meddai.
Bydd Cân y Babis yn cael ei lansio yn ward mamolaeth Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, ar ddiwrnod Plant Mewn Angen eleni ac fe fydd Caryl a Dafydd yn darlledu’n fyw o’r ward ar y diwrnod.
Yn ôl Pennaeth Bydwreigiaeth Sir Gâr, Julie Jenkins, mae’r ward yn “edrych mlaen yn arw at groesawu Dafydd a Caryl i’r ward, gan ein bod yn mwynhau gwrando ar y rhaglen. Rwy’n siŵr bydd sawl un o’n mamau’n awyddus i gymryd rhan ar y diwrnod.
“Mae tua 1,700 o fabanod yn cael eu geni ar ward Dinefwr bob blwyddyn, ac mae hi wir yn fraint bod yn rhan o bob un o’r genedigaethau hyn,” meddai.
Bydd Cân y Babis, sy’n cael eu rhyddhau gan Gwmni Sain, ar gael i’w brynu ar CD ac ar iTunes o ddydd Gwener 18 Tachwedd ymlaen, gyda’r holl elw yn mynd tuag at Plant Mewn Angen.