Rhydian Roberts

Mae na feirniadaeth wedi bod ar ol i’r bariton poblogaidd Rhydian Roberts ganu yn Saesneg ar S4C.

Un o’r rhai oedd wedi gwneud sylw ar Twitter yw’r cerddor Aneirin Karadog sydd wedi beirniadu canu Saesneg ar S4C ac wedi dweud yr hoffai weld mwy o bethau o ‘werth Cymreig diwylliannol’ ar y sianel genedlaethol.

Mae  Aneirin Karadog, cerddor, bardd ac aelod o grŵp hip hop Y Diwygiad yn credu y dylai cerddorion gael canu mewn “unrhyw iaith heblaw Saesneg” ar S4C.

Does dim cyfiawnhad dros ganu yn Saesneg ar y Sianel Genedlaethol, meddai wrth Golwg360.

“Dw i’n cofio gwylio Rhydian ar yr X Factor a’i gefnogi fe  am ei fod o’n Gymro. Ond, y peth am yr X  Factor yw mai diddanwch nos Sadwrn yw e. Sai’n cymryd y gerddoriaeth o ddifrif  o gwbl! Mae gwell da fi gerddoriaeth werin, reggae a Hip Hop,” meddai’r cerddor.

“Ar Wedi 7, fydd neb byth yn cael  canu yn Saesneg. Bydd grwpiau o Loegr yn dod ac yn canu mewn Lladin, Eidaleg neu Almaeneg.  Hefyd, does dim canu Saesneg yn Eisteddfod yr Urdd a’r Genedlaethol,” meddai.

‘Gadael y drws yn agored’

Mae’n pryderu y gallai canu’n Saesneg “adael y drws yn agored”.

“Yn ddelfrydol, fyddai neb yn siarad dim Saesneg ar y sianel o gwbl. Ond, lle mae canu yn y cwestiwn – does dim cyfiawnhad dros ganu yn Saesneg. Yn enwedig os nad yw bandiau roc a phop, y bandiau fwyaf tebygol i ganu yn Saesneg, ddim yn cael gwneud hynny ar raglenni fel Nodyn, Gofod, neu Bandit,” meddai.

“Mae clywed Rhydian ac Only Men Aloud yn canu yn Saesneg yn gadael y drws yn agored wedyn. Pam ddim cael cyngerdd Coldplay ar S4C?”

Yn hytrach, mae o‘r farn y dylai S4C roi mwy o sylw i bethau o “werth Cymreig diwylliannol.”

“Boed chi’n licio Cerdd Dant neu beidio – roedd rhoi sylw i’r Wyl Gerdd Dant yn rhywbeth o fwy o werth Cymreig diwylliannol, sef yr hyn ddylai S4C fod yn gwneud – na rhoi sylw i ddwsin o fandiau sy’n canu bob cân yn Saesneg  drwy gydol y noson ar S4C, mae hynny wedi digwydd,” meddai.

‘Dim allbwn’

Fe ddywedodd Rhys Aneurin o’r grŵp Yr Ods wrth Golwg360 mai prin iawn yw’r sylw mae cerddoriaeth gyfoes Gymraeg yn ei gael ar S4C.

“Maen nhw wedi cael gwared â Nodyn, Bandit ac yn fwy diweddar Gofod, oedd yn rhoi rhywfaint o sylw i gerddoriaeth. Does dim allbwn i gerddoriaeth gyfoes Gymraeg, ond yna maen nhw’n rhoi cyfresi i Only Men Aloud a Rhydian – dim dyma ydy cerddoriaeth gyfoes Gymraeg,” meddai.

“Mae cyfrifoldeb gan S4C i adlewyrchu diwylliant Cymraeg ond dydyn nhw ddim yn gwneud hynny ar hyn o bryd o ran cerddoriaeth gyfoes.”

Roedd chwaraewr allweddellau Yr Ods yn siarad â Golwg360 wrth i’r grŵp ryddhau eu halbwm cyntaf, Troi a Throsi.

Dywedodd fod angen “adlewyrchu’r sin yn onest”  a bod y teledu’n rhywbeth sy’n gallu estyn allan i gynulleidfa enfawr, a hynny’n gallu “hybu’r sin mewn ardaloedd lle does ‘na ddim gigs a ballu’n cael eu cynnal ar hyn o bryd.”

Ymateb S4C

Dywedodd llefarydd ar ran S4C wrth Golwg360: “Mae cynhyrchwyr rhaglenni yn gwneud defnydd gofalus, dethol ac achlysurol o’r Saesneg am resymau golygyddol a chreadigol. Yn achos y gyfres yma, mae Rhydian a’i westeion yn canu ystod eang o ganeuon er mwyn apelio at gynulleidfa eang o bob cefndir.

“Mae S4C yn cydnabod bod y ffin yn denau rhwng yr hyn sy’n dderbyniol a’r hyn sy’n ormodol ac mae’r tîm Comisiynu yn gweithio’n agos gyda’r cwmnïau cynhyrchu er mwyn sicrhau bod y cydbwysedd yn gywir. Un gân Saesneg ganwyd gan Rhydian ac un gan ei westai arbennig ar y noson, a ryda ni’n ystyried hyn yn briodol yng nghyd-destun adeiladwaith y rhaglen gyfaan,” meddai.

“Ynglŷn â sylw Rhys Aneirin, mae S4C wedi gwahodd syniadau am gyfresi cerdd gyfoes fel rhan o’r broses gomisiynu newydd. Byddwn yn gwahodd syniadau am gyfres fydd yn frand uniongyrchol, yn cael ei reoli yn olygyddol gan bolisi cynnwys cerddorol cryf.

“Disgwyliwn i’r brand yma gwmpasu holl gynnwys cerdd gyfoes S4C gan gynnig eitemau neu raglenni o’r gwyliau cerddorol, eitemau neu raglenni sydd yn ymateb i’r farchnad ryddhau cynnyrch yn ogystal â bod yn llwyfan i roi sylw i’r diwydiant yn gyffredinol.”