C'mon Mid-laiff - George (Llion Williams) a Sandra (Gwenno Elis Hodgkins)
Mewn cyfweliad fideo arbennig gyda Golwg360, mae awdur drama ddiweddaraf Theatr Bara Caws wedi cyfaddef nad oedd yn bwriadu ysgrifennu’r ddrama.
Mae C’mon Mid-laiff yn ymdrin ag argyfwng canol bywyd un o gymeriadau amlycaf y gyfres deledu C’mon Midffild.
Ond yn ôl yr awdur, Bryn Fôn, daeth thema’r sioe newydd ar hap ar ôl i Theatr Bara Caws wrthod ei gynnig cyntaf o ddrama.
“Yn sicr nes i ddim cychwyn efo’r bwriad o sgwennu C’mon Mid-laiff” meddai Bryn Fôn wrth Golwg360.
“Fyswn i ddim wedi meddwl bod mor ddigywilydd â hynny oherwydd statws cwlt, mewn ffordd, C’mon Midffild”
Mae Golwg360 eisoes wedi tynnu sylw at lwyddiant gwerthiant tocynnau’r daith ddiweddaraf gan Theatr Bara Caws – mae nifer o’r dyddiadau eisoes wedi gwerthu allan.
Gwyliwch y cyfweliad fideo llawn gyda Bryn Fôn isod.