Robbie Savage
Mae’r triawd o Gymru wedi cyrraedd Wembley.

Bydd Alex Jones, Russell Grant a Robbie Savage yn dawnsio yn Arena Wembley o flaen chwe mil o bobl nos Sadwrn nesaf yn y rhaglen Strictly Come Dancing.

Clywodd y tri heno ’ma eu bod nhw wedi ennill digon o bleidleisiau gan aelodau’r cyhoedd i fynd trwodd i raglen yr wythnos nesaf.

Roedd y tri wrth eu boddau gydag Alex yn edrych ei bod wedi cael sioc, Russell yn dawnsio i fyny ac i lawr y grisiau, a Robbie yn wên o glust i glust.

Y cystadleuydd wnaeth adael y gystadleuaeth heno ’ma oedd y cyn focsiwr Audley Harrison.