Luned Mair, Llanwenog, yn ennill y Gadair am yr ail dro'n olynol - rhagor o luniau islaw
Am yr ail flwyddyn yn olynol, Clwb Llanwenog oedd enillwyr Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Ceredigion.

Ac, am yr ail flwyddyn yn olynol, un o aelodau’r clwb oedd enillwyr y Gadair.

Ar ddiwedd y cystadlu tros noson a diwrnod ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid, roedd Llanwenog ymhell ar y blaen i’r ail glwb, Pontsian, gydag wyth o wobrau cyntaf yn yr adran waith cartref yn gwneud gwahaniaeth mawr.

Pontsian oedd enillwyr y côr ond fe fydd amrywiaeth mawr o glybiau – gan gynnwys rhai o’r clybiau llai – yn cael eu cynrychioli yn eisteddfod genedlaethol y mudiad y penwythnos nesa’.

Luned Mair o Glwb Llanwenog oedd Llenor y Gadair, gan ennill canmoliaeth uchel am stori fer ar y testun ‘Drych’.

Yn ôl y beirniad, Karina Dafis, roedd hi’n “defnyddio iaith yn gryno fachog” ac fe ddywedodd ei bod wedi cael ei “gwefreiddio gan aeddfedrwydd y cyfanwaith”.

Dwy stori arall a ddaeth yn ail a thrydydd hefyd, gyda’r ail, Elin Dafydd o Droedyraur yn agos iawn. O Droedyraur yr oedd y drydedd hefyd, Lowri Evans.

Canlyniadau

Trefn y clybiau

Llanwenog          95

Pontsian              75

Caerwedros       68

Troedyraur         43

Mydroilyn           38

Lluniau’r Eisteddfod


Ail yn y sgets - Mydroilyn

Trydydd yn y sgets - Caerwedros