Robbie Savage
Mae Robbie Savage yn gobeithio ei fod wedi gwneud digon i gyrraedd Wembley.

Mae’r cyn-beldroediwr yn cystadlu yn y sioe deledu Strictly Come Dancing eleni, ac mae’n mynd o nerth i nerth. Ei obaith mawr yw ennill digon o bleidleisiau gan y cyhoedd er mwyn mynd ymlaen i raglen yr wythnos nesaf, fydd yn dod o Arena Wembley.

Yn hytrach na dawnsio o flaen cannoedd mewn stiwdio deledu, mi fyddai Robbie a’i gyd-ddawnswyr yn dawnsio o flaen miloedd o bobl.

Mae pethau’n argoeli’n dda i Robbie gan ei fod wedi derbyn cryn ganmoliaeth gan y beirniaid neithiwr ar ôl dawnsio’r American Smooth. Cafodd sgôr o 7 gan Craig Revell Horwood sy’n un anodd iawn ei blesio.

Mae’r ddau arall o Gymru sy’n cystadlu yn Strictly Come Dancing eleni hefyd yn gobeithio cyrraedd Wembley.

Mi wnaeth Alex Jones ddisgleirio wrth ddawnsio’r jeif, ac mi roedd y gynulleidfa ar eu traed yn cymeradwyo ar ddiwedd dawns Russell Grant. Roedd yntau hefyd wedi dawnsio’r American Smooth.

Cawn wybod heno os bydd y triawd o Gymru yn arddangos eu doniau yn Wembley yr wythnos nesaf.