Silvio Berlusconi
Mae Prif Weinidog yr Eidal, Silvio Berlusconi, wedi ymddiswyddo.
Fe ymddiswyddodd y gŵr sy’n cael ei alw’n “glown” gan nifer o’i gydwladwyr ar ôl i senedd yr Eidal gymeradwyo mesurau cynildeb newydd.
Croesawyd y newyddion am ei ymddiswyddiad gan dorf swnllyd y tu allan i balas yr arlywydd.
Mae Berlusconi wedi bod yn ffigwr amlwg, a lliwgar, ym myd gwleidyddol yr Eidal ers 17 mlynedd, gyda sawl sgandal wedi ei amgylchynu.
Y gred yw y bydd Mario Monti, sy’n gyn Comisiynydd Ewropeaidd, yn cael y dasg o geisio ffurfio llywodraeth i reoli a cheisio datrys argyfwng ariannol y wlad.
Y Prif Weinidog newydd, Lucas Papademos, sy’n arwain y llywodraeth dros dro.
Bydd trafodaethau ar gyfer ffurfio llywodraeth newydd yn dechrau heddiw.
Mae disgwyl i’r pecyn o fesurau gyflawni arbedion o 59.8 biliwn euro.