Craig Bellamy
Cymru’n Curo Eto

Cymru 4–1 Norwy

Parhau y mae rhediad rhagorol Cymru dan ofal Gary Speed yn dilyn buddugoliaeth swmpus mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Norwy yn Stadiwm Dinas Caerdydd brynhawn Sadwrn.

Roedd dwy gôl gynnar i Bale a Bellamy a dwy gôl hwyr i’r eilydd, Vokes yn hen ddigon i sicrhau buddugoliaeth arall i’r tîm cenedlaethol

Dechrau Da i’r Cymry

Dechreuodd Cymru’r gêm ar dân ac roedd hi’n 2-0 i’r cochion wedi cwta dros chwarter awr.

Daeth y gyntaf i Gareth Bale wedi 11 munud. Chwaraewyd pêl hir o’r cefn i gyfeiriad Bale a chafwyd cyd chwarae da rhyngddo ef a Steve Morrison cyn i asgellwr Tottenham Hotspur orffen y symudiad gyda hanner foli nerthol o ongl dynn.

Roedd hi’n ddwy diolch i Bellamy wedi 16 munud ac roedd hon yn dipyn o gôl hefyd. Cododd Bellamy’r bêl yn ei hanner ei hun a’i chario yn ddi wrthwynebiad tuag at flwch cosbi Norwy. Yna, ar ochr y blwch trodd ar ei droed dde a chrymanu ergyd berffaith i gornel uchaf y rhwyd, dim gobaith i Rune Jarstein yn y gôl i Norwy, 2-0 i’r tîm cartref.

Norwy’n Taro’n Ôl

Daeth Norwy fwyfwy i mewn i’r gêm wedi’r 20 munud cyntaf cyffrous a daethant o fewn trwch postyn i sgorio pan ergydiodd Mohammed Abdellaoui yn erbyn y pren o 20 llath. Serch hynny roedd Cymru yn haeddu bod ar y blaen ar yr egwyl.

Norwy a oedd y tîm gorau yn gynnar yn yr ail hanner hefyd a chawsant eu haeddiant wedi ychydig dros awr o chwarae gyda gôl i Husexlepp. Ond haeddiannol ai peidio doedd gan Gymru neb ond hwy eu hunain i’w beio am y gôl. Gwastraffodd Erik Husexlepp y cyfle gwreiddiol trwy fethu rheoli’r bêl ond rhoddodd smonach Wayne Hennessey yn y gôl ail gyfle ar blât i’r blaenwr a sgoriodd yntau i rwyd wag o chwe llath.

Dwy Gôl Hwyr i’r Eilydd

Ond sicrhaodd Cymru’r fuddugoliaeth gyda dwy gôl hwyr i’r eilydd, Sam Vokes. Sgoriodd ymosodwr Wolves wedi 88 a 89 munud er mwyn rhoi sglein ar y sgôr.

Roedd y gyntaf yn ymdrech dîm taclus, Bellamy yn rhedeg gyda’r bêl i hanner Norwy cyn pasio i Bale ar ochr chwith y cwrt cosbi a’i groesiad yntau yn cael ei fesur yn berffaith i Vokes wrth y postyn pellaf.

Ymdrech unigol dda oedd ei ail wrth i Gymru ennill y meddiant yn ôl yn syth o’r ail ddechrau. Daeth y bêl i Vokes a saethodd yntau daran o ergyd i gornel isaf y rhwyd o 20 llath.

Ymateb

Roedd rheolwr Cymru, Gary Speed yn hynod falch â’r canlyniad a’r perfformiad hefyd, yn enwedig yr ugain munud cyntaf, “Roedden ni’n wych yn yr ugain munud cyntaf, dyna’r gorau yr ydyn ni wedi ei chwarae ers tipyn ac fe sgorion ni ddwy gôl dda iawn.”

 “Yna fe ymlacion ni braidd gormod yn erbyn tîm da â hithau’n 2-0, a Norwy oedd y tîm gorau yn ugain munud cyntaf yr ail hanner ond yna fe sgorion ni ddwy gôl wych yn hwyr yn y gêm. Mae’n dangos bod gennym gymaint i’w gynnig wrth ymosod, ac os allwn ni gadw’r amddiffyn yn dynn hefyd fe allwn ni guro timau fel hyn.”

Does dim dwywaith bod digon o hyder yn y garfan ar hyn o bryd a’u bod yn barod am gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.

Gwilym Dwyfor Parry