Babi yn cael ei achub ar ol daeargyn 23 Hydref
Mae o leia saith o bobol wedi eu lladd a dwsinau yn gaeth o dan y rwbel ar ôl daeargyn yn nwyrain Twrci.

Mae timau achub wedi llwyddo i dynnu 23 o bobol o’r rwbel hyd yn hyn.

Dywedodd Dirprwy Brif Weinidiog y wlad Besir Atalay bod y ddaeagryn wedi achosi i 25 o adeiladau ddymchwel yn ninas Van ond roedd y rhan fwyaf ohononyn nhw, ar wahan i dri, yn wag, meddai.

Roedd y gweddill yn wag yn dilyn y ddaeagryn fis diwethaf.

Dywedodd Besir Atalay bod timau achub yn canolbwyntio ar safle lle roedd dau westy a fflatiau wedi dymchwel. Roedd y daeargyn yn mesur 5.7 ar y raddfa Richter a death ychydig wythnosau’n unig ers y daeargyn a laddodd mwy na 600 o bobl ar 23 Hydref.

Roedd un o westai mwya enwog Van, gwesty Bayram, oedd newydd gael ei adnewyddu, wedi dymchwel.

Roedd newyddiadurwyr, oedd yn dilyn stori’r daeargryn ar 23 Hydref, ymhlith y  gwesteion yn y gwesty. Mae miloedd o bobl yn dal i fod yn ddi-gartref ers y daeargyn fis diwethaf ac yn gwersylla mewn pebyll, er gwaetha’r tywydd oer, am fod ganddyn nhw ofn dychwelyd i’w cartrefi.

Roedd 2,000 o adeiladau wedi dymchwel yn y daeagryn ar 23 Hydref ac mae’r awdurdodau wedi dweud nad ydy 3,700 o rai eraill yn ddigon diogel i fyw ynddyn nhw.