Mae FIFA wedi gwneud tro pedol ar y penderfyniad i wahardd peldroedwyr Cymru rhag gwisgo’r pabi coch yn ystod eu gêm yn erbyn Norwy ddydd Sadwrn.

Roedd y corff sy’n rheoli pêl-droed rhyngwladol wedi gwahardd timau pêl-droed Cymru a Lloegr i wisgo’r pabi coch ar eu crysau ddydd Sadwrn, ddiwrnod cyn Sul y Cofio.

Ond heno fe gyhoeddodd FIFA eu bod nhw nawr yn mynd i ganiatau tîm pêl-droed Lloegr i wisgo’r pabi coch ar fand du am freichiau’r chwaraewyr ddydd Sadwrn.

Mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru eisoes wedi dweud eu bod yn bwriadu gwisgo’r pabi coch wrth gynhesu cyn y gêm, gyda’r neges “Cymru’n Cofio – Wales Remembers”, ond mae disgwyl y bydd y Gymdeithas nawr yn gofyn am yr un hawl â Lloegr, i wisgo’r pabi ar fandiau ar lewys eu crys.

Penderfyniad dadleuol

Roedd FIFA wedi dweud yn wreiddiol eu bod yn ofni y byddai caniatau i chwaraewyr wisgo’r pabi yn ystod y gêm yn “peryglu niwtraliaeth pêl-droed.”

Heddiw, galwodd y Prif Weinidog, David Cameron, y penderfyniad yn un “hurt”, ac fe ysgrifennodd at lywydd FIFA, Sepp Blatter, yn gofyn iddo ddod o hyd i ateb “synhwyrol” i’r gwaharddiad.

Roedd y Tywysog William hefyd wedi mynegi ei bryder ynglŷn â’r gwaharddiad – a fyddai wedi effeithio hawl tîm Lloegr i wisgo’r pabi ddydd Sadwrn wrth iddyn nhw herio Sbaen – gan ysgrifennu at FIFA yn gofyn iddyn nhw ail-ystyried.

Yn ôl llefarydd ar ran y Tywysog, roedd yn ceisio argyhoeddi FIFA “fod y pabi yn symbol rhyngwladol o gofio, heb unrhyw arwyddocad gwleidyddol, crefyddol na masnachol,” a fod y Tywysog wedi gofyn i FIFA “wneud eithriad yn yr achos arbennig hwn.”

Bydd Cymru yn herio Norwy mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn am 3pm.