Mae chwaraewr rygbi, oedd yn pwyso 19 stôn, yn honi iddo ddeffro’n  hoyw ar ôl cael strôc.

Mae Chris Burch, 26 oed, bellach yn pwyso 11 stôn, wedi ail-hyfforddi i fod yn driniwr gwallt ac yn byw gyda’i gariad.

Mae Chris Burch yn gweithio yn salon gwallt J’s yn Ystrad Mynach ar ôl rhoi’r gorau i’w swydd mewn banc a thorri ei berthynas gyda’i ddyweddi.

Fe ddigwyddodd y ddamwain yn ystod sesiwn hyfforddi rygbi pan dorrodd ei wddf. Roedd ei rieni a’i ddyweddi wedi aros wrth ei wely yn yr ysbyty i weld a fyddai’n gwella ar ôl y ddamwain.

Ond roedd y dyn a ddeffrôdd wedi’r ddamwain yn wahanol ym mhob ffordd – roedd yn casau chwaraeon a doedd ganddo ddim diddordeb mewn merched. Cafodd ei gynlluniau i briodi eu rhoi o’r neilltu wrth iddo ddedchrau ei fywyd newydd fel dyn hoyw.

“Roeddwn i’n hoyw pan nes i ddeffro ac rydw i’n dal i fod,” meddai Chris Burch. “Roeddwn i’n teimlo’n wahanol yn syth. Yn sydyn roeddwn i’n casau popeth am fy mywyd cyn hynny.”

Mae Chris Burch wedi bod yn sôn am y strôc a newidiodd ei fywyd mewn cyfres o bapurau newydd heddiw.