Mae Tîm yr Wythnos criw Sgorio ychydig bach yn wahanol i’r arfer yr wythnos hon, oherwydd maen nhw oll yn chwarae i’r un tîm…

Tîm Y Seintiau Newydd v Llanelli

Y perfformiad gorau gan dîm yn Uwch Gynghrair Cymru ers cryn amser, a hynny yn erbyn un o’r ffefrynnau eraill am y bencampwriaeth. Roedd Y Seintiau 4-0 ar y blaen erbyn yr egwyl ac wedi rhwystro Llanelli rhag cael yr un cyfle clir i fygwth.

Roedd Malcolm wedi ei chael yn anodd iawn i ddewis seren y gêm yn ystod y gêm fyw ar S4C ddydd Sadwrn gan bod, yn ei farn ef, 11 seren ar y maes i’r tîm cartref!

YSN: Paul Harrison, Simon Spender, Chris Marriott, Phil Baker, Steve Evans, Greg Draper, Craig Jones, Scott Ruscoe, Nicky Ward, Alex Darlington, Aeron Edwards

Gallwch weld uchafbwyntiau’r gêm, a barnu dros eich hun os oedd tîm llawn Y Seintiau’n haeddu bod yn nhîm yr wythnos, ar raglen Sgorio am 23:10 ar S4C heno.

Bydd yr uchafbwyntiau i’w gweld yma ar Golwg360 nes mlaen yn yr wythnos hefyd.