Nigeria
Mae o leiaf 63 o bobl wedi cael eu lladd yn ystod terfysg yn nhref Damaturu yng ngogledd-ddwyrain Nigeria yn ôl y Groes Goch.

Mae cannoedd yn cael eu trin yn yr ysbyty a channoedd eraill wedi ffoi o’r dref ar ôl noson o derfysg pan ymosodwyd ar sawl targed gan gynnwys eglwysi a phencadlys yr heddlu.

Digwyddodd y terfysg yn Damaturu yn dilyn ymosodiadau gan dri hunan fomiwr ar bencadlys militariadd yn Maidugari yn nhalaith Bornu sydd yn yr un ardal. Honnir bod yr hunan-fomwyr yn aelodau o Boko Haram, mudiad Islamaidd sydd eisiau dymchwel y llywodraeth a chreu gwladwriaeth Islamaidd.

Ysytyr Boko Hamram yn iaith Hausa yw “gwaherddir addysg orllewinol” ac fe ffurfiwyd y mudiad yn 2002. Mae wedi bod yn gyfrfiol am ddegau o ymosodiadau ers hynny gan gynnwys yr ymosodiad ar bencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Abuja ym mis Awst.