Gary Speed
Mae rheolwr tîm pel-droed Cymru, Gary Speed wedi dweud na fydd yn gwahardd y capten Aaron Ramsey a Gareth Bale rhag chwarae i dîm Prydain Fawr yn y gemau Olympaidd yn Llundain y flwyddyn nesaf.

Ymddangosodd Ramsey a Bale yn gwisgo crysau cefnogi tîm Prydain Fawr yr wythnos diwethaf gan gythruddo Cymdeithas Pêl-droed Cymru sydd yn flin bod Cymdeithas Olympaidd Prydain wedi defnyddio dau o brif chwaraewyr Cymru i hyrwyddo eu tîm ei hunain.

Pwyleisiodd Speed fod Cymru yn parhau yn gwrthwynebu sefydlu’r tîm ond ychwanegodd nad oedd yn bwriadu dweud wrth y ddau am beidio chwarae.

“Eu dewis nhw ydi’o, mae nhw’n bobl yn eu hoed a’u hamser a nhw fydd yn gwneud y dewis,” meddai Gary Speed wrth gael ei gyfweld gan BBC Cymru.

Mae Ramsey a Bale eisoes wedi cyhoeddi eu bod yn awyddus i chwarae ac hefyd wedi eu cynnwys yng ngharfan Cymru i chwarae yn erbyn Norwy yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 12 Tachwedd.

Dim ond FA Lloegr sydd yn cefnogi’r syniad o gael tîm Prydain Fawr ac mae rhai rheolwyr yn poeni y bydd chwarae yn y gemau Olympaidd yn gofyn gormod o chwaraewyr sydd yn chwarae’n gyson i’w clybiau.