Hyfforddwr siomedig y Dreigiau, Darren Edwards
Dreigiau v Gleision – wedi’i gohirio

Cafodd gêm ddarbi Gymreig gyntaf y penwythnos ei chanslo ar Rodney Parade heno o ganlyniad i lifogydd ar y cae.

Cafwyd glaw trwm mewn cyfnod byr ddiwedd y prynhawn gan olygu bod llawer o ddŵr ar wyneb maes Rodney Parade, yn arbennig yn un chwarter o’r cae.

Roedd cryn edrych ymlaen wedi bod i’r gêm ddarbi fawr rhwng y Dreigiau a’r Gleision, yn enwedig gan fod y Dreigiau’n dathlu agor eisteddle newydd yn Rodney Parade.

Roedd disgwyl torf fawr i ddathlu’r achlysur, yn ogystal â rhoi croeso adref i nifer o chwaraewyr rhyngwladol Cymru oedd yn chwarae i’w rhanbarthau am y tro cyntaf ers dychwelyd o Gwpan y Byd.

Rhoddodd y dyfarnwr, Nigel Owens bob cyfle i staff Rodney Parade glirio’r dŵr, gan ohirio’r gic gyntaf nes 8pm. Er gwaethaf ymdrech lew gan swyddogion, doedd dim yn tycio ac yn y diwedd doedd dim dewis ond cytuno i ohirio’r gêm.

Diogelwch yn bwysig

Roedd hyfforddwyr y ddau dîm yn siomedig iawn gyda’r sefyllfa, ond yn cytuno nad oedd dewis ac mai diogelwch y chwaraewyr oedd y flaenoriaeth.

“Rwy wedi fy siomi’n fawr, roedd yn mynd i fod yn noson wych i rygbi’r Dreigiau” meddai hyfforddwr y tîm cyntaf, Darren Edwards ar raglen fyw BBC2 o’r gêm.

“Fe wnes i wthio’r gic gyntaf nôl gymaint â phosib, ac er tegwch i’r Gleision fe wnaethon nhw dderbyn hynny. Ond, diogelwch sy’n dod gyntaf.”

Yr un oedd ymateb hyfforddwr y Gleision, Gareth Baber.

“Maen nhw wedi gweithio’n galed iawn i geisio bwrw ymlaen a’r gêm” meddai Baber.

“Yn amlwg roedden ni eisiau chwarae’r gêm ond mae’n rhaid bod yn ofalus mewn sefyllfaoedd fel hyn.”