Nigel Davies - cur pen pleserus?
Gohebydd rhanbarth y Scarlets, Aled Hywel Evans sy’n edrych ymlaen at y gêm fawr yn erbyn y Gweilch nos yfory.

Hawdd byddai meddwl fod yna gyfnod tawel yn wynebu nifer o sêr y Scarlets a ddisgleiriodd yn Seland Newydd dros y ddeufis diwethaf.

Ond, er bod Cwpan y Byd wedi dirwyn i ben mae yna fis prysur tu hwnt yn wynebu pob un o ranbarthau Cymru, yn enwedig efallai’r Scarlets, sy’n cychwyn cyfnod cyffrous gydag ymweliad i’r Liberty brynhawn fory, i herio’r Gweilch.

Fe fydd Nigel Davies wrth ei fodd gyda’r enwau mawr sy’n dychwelyd i’r garfan, yn enwedig wrth ystyried y perfformiadau addawol a gafwyd gan nifer o’r rheiny yng nghrys coch Cymru.

Ieuenctid yn disgleirio

Ond rhaid peidio anghofio am gyfraniad nifer o chwaraewyr ifanc sydd wedi perfformio’n gyson tra bod y chwaraewyr rhyngwladol i ffwrdd.

Fe fydd Liam Williams ac Adam Warren yn ddau enw fydd yn gobeithio cael cyfle i adeiladu ar nifer o berfformiadau gwych – y ddau‘n amlwg iawn yn y buddugoliaethau yng nghystadleuaeth yr LV ac yn erbyn Ulster y penwythnos diwethaf.

Mae’n siŵr bod Nigel Davies a’i staff wedi cael cryn dipyn o gur pen wrth geisio enwi’r olwyr ar gyfer brwydr yr Orllewin.

Chwaraewyr yn dychwelyd

Mae Rhys Priestland yn dal i wella o’r anaf a gafodd yn erbyn Iwerddon, ond bydd Stephen Jones yn awyddus i greu argraff yn safle’r maswr yn ei absenoldeb gyda rownd agoriadol y Cwpan Heineken ar y gorwel.

Mae yna ddyfnder hefyd yn safle’r canolwyr wrth ystyried cyfraniad cyson Sean Lamont, Jon Davies a’r addawol Scott Williams.

Mae Williams yn dechrau yn y canol gyda Warren, a Lamont ar yr asgell tra bod Jon Davies yn gorfod bodloni â lle ar y fainc nos fory.

O ran y blaenwyr, gellir galw ar ddau fachwr rhyngwladol er mwyn rhoi cadernid yn y rheng-flaen.

Bydd cyfrifoldeb mawr ar Ben Morgan hefyd i gario o’r rheng ôl a rhoi’r tîm ar y droed flaen.

Syml yw’r neges i Mathew Rees a’i gyd flaenwyr – rhaid iddynt berfformio i osod sylfaen i’r olwyr talentog nos fory.

Castres a Northampton fydd y ddwy gêm enfawr yn dilyn yr ymweliad i’r Liberty. Ond rhaid i’r cochion anghofio am unrhyw freuddwydion am Ewrop yr wythnos hon, gan sicrhau buddugoliaeth yn erbyn yr hen elyn.

Efallai bod tlws William Webb Ellis wedi hen setlo uwch ben lle tân Graham Henry, ond mae yna ddigon o rygbi o’n blaenau o hyd i gyffroi holl gefnogwyr rygbi Cymru.

Tîm y Scarlets i herio’r Gweilch:

Daniel Evans, Liam Williams, Adam Warren, Scott Williams, Sean Lamont, Stephen Jones, Tavis Knoyle, Iestyn Thomas, Matthew Rees (c), Rhys Thomas, Dominic Day, Damian Welch,  Aaron Shingler, Rob McCusker, Ben Morgan.

Eilyddion:

Ken Owens, Phil John, Rhodri Jones, Sione Timani, Richie Pugh, Rhodri Williams, Jon Davies, George North.