Gellir disgwyl tân gwyllt yng ngêm fyw Sgorio yfory  wrth i’r tîm ar y brig, Y Seintiau Newydd herio’r tîm sy’n drydydd, Llanelli.

Does dim dwywaith mai’r gêm hon yn Neuadd y Parc brynhawn Sadwrn yw gêm fwyaf y penwythnos os nad y tymor hyd yn hyn yng Uwchgynghrair Cymru. Mae’r Seintiau ar y brig ac ar rediad gwych ond yn croesawu un o dimau cryfa’r gynghrair i Groesoswallt y penwythnos hwn.

Yn dilyn dechrau braidd yn siomedig i’r tymor yn eu dwy gêm gyntaf mae’r Seintiau wedi bod ar rediad gwych. Dim ond un pwynt allan o chwech a gawsant ar ddechrau’r tymor ond ers hynny maent wedi bod yn ddi guro gan ennill deg gêm allan o un ar ddeg.

Mae record gartref y Seintiau yn un anhygoel, nid ydynt wedi colli yn Neuadd y Parc y tymor hwn a dim ond un waith y maent wedi colli yno yn y ddau dymor diwethaf, hynny yn erbyn Castell Nedd ym mis Ebrill. Teg dweud fod talcen caled yn wynebu Llanelli felly.

Ond mae Cyfarwyddwr Pêl-Droed Y Seintiau, Mike Davies yn gwybod na fydd Llanelli yn gêm hawdd:

“Mae Llanelli yn dîm gwych, ac os gawn ni unrhyw beth yn eu herbyn nhw fe fydd hi’n dipyn o gamp. Ond rydyn ni’n chwarae pêl droed gwych ar hyn o bryd, yn chwarae’n hyderus ac ar rediad da felly fe ddylai hi fod yn gêm dda.”

Er gwaethaf y record gartref wych bydd Davies yn ymwybodol mai dim ond tair llechen lan y mae ei dîm wedi eu cadw yn Neuadd y Parc y tymor hwn. Ildiodd ei dîm ddwy gôl yn eu gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Port Talbot a byddant yn awyddus i dynhau’r amddiffyn yn erbyn Rhys Griffiths, Craig Moses a’u tebyg ddydd Sadwrn.

Newyddion da i Davies cyn y gêm yw fod ganddo garfan gyfan gwbl holliach i ddewis ohoni:

“Does gennym ni ddim anafiadau, mae’r garfan i gyd yn ffit sydd yn beth braf, yn beth eithaf unigryw a dweud y gwir, felly rydym yn edrych ymlaen yn arw at y gêm.”

Mae’r ymosodwyr Matty Williams a Greg Draper ar dân i’r Seintiau, wedi sgorio pymtheg gôl rhyngddynt y tymor hwn. Mae cyn chwaraewr tîm ieuenctid Manceinion Unedig, Williams wedi rhwydo wyth o weithiau tra mae chwaraewr rhyngwladol Seland Newydd, Draper wedi sgorio saith. Mae’r ddau wedi rhwydo deirgwaith ym mhedair gêm ddiwethaf y Seintiau y tymor hwn a byddant yn edrych ymlaen i barhau â’r rhediad da hwnnw yn erbyn Llanelli.

Mae’r gêm yn erbyn Llanelli yn gyntaf o dair gornest anodd i’r Seintiau mewn wyth diwrnod, gyda taith i Gastell Nedd yn eu disgwyl nos Fercher cyn iddynt groesawu Bangor ddydd Sul nesaf. Beth y mae Mike Davies yn ei feddwl o hynny tybed:

“Rydym ni’n ei gweld hi fel her wych. Ydyn, mae nhw’n dair gêm anodd ond does yna ddim gemau hawdd yn y gynghrair hon pryn bynnag, boed chi’n chwarae timau o’r hanner gwaelod neu’r hanner uchaf. Fe fydd pobl yn edrych ar y rhestr ac yn meddwl,  tri thîm sydd yn anelu am y teitl, ond mae’n rhaid eu chwarae nhw rhyw bryd ac mae hynny yr un peth i bawb arall hefyd.”

Y Seintiau yn hyderus felly, a hawdd gweld pam a hwythau â phedwar pwynt o fantais ar frig y gynghrair ar hyn o bryd. Fe fyddant ar y brig nos Sadwrn felly beth bynnag fydd y canlyniad,  ond byddant yn awyddus i gadw eu mantais a byddant yn ymwybodol hefyd y gall y fantais honno dyfu gan gofio fod gan Bangor sydd yn ail ar hyn o bryd daith anodd i Lido Afan ddydd Sadwrn.

Mae Sgorio yn dechrau am 15:00 gyda’r gic cyntaf am 15:45.

Gwilym Dwyfor Parry