Andy Legg yw rheolwr Llanelli
Bydd chwaraewyr Llanelli yn gobeithio y bydd mis Tachwedd yn dechrau’n dda gyda buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Y Seintiau Newydd o flaen camerâu Sgorio yfory.

Mae’r tîm cyntaf i gyd wedi penderfynu tyfu mwstash trwy gydol mis Tachwedd er mwyn codi arian ac ymwybyddiaeth o ganser y prostad a phroblemau iechyd dynion.

Mae rheolwr Llanelli, Andy Legg, wedi dioddef o ganser ei hunan ac mae ef yn credu ei fod yn syniad gwych:

“Nid yw fy un i yn dod ymlaen yn dda iawn ar hyn o bryd! Ond mae’n syniad gwych ac yn achos teilwng iawn. Mae dynion yn fwy na merched yn gyndyn o fynd i weld y doctor am bethau fel hyn felly mae unrhyw beth sy’n helpu i godi ymwybyddiaeth yn beth i’w ganmol. A gobeithio y gallwn ni godi ceiniog neu ddwy yn ogystal ag edrych yn dwp ar y cae!”

Er bod Llanelli yn ddi-guro yn eu naw gêm ddiwethaf mae’r ddau ganlyniad diweddaraf wedi bod yn rhai siomedig i’r Cochion.  Maent wedi disgyn i’r trydydd safle yn dilyn dwy gêm gyfartal yn erbyn dau dîm o’r hanner gwaelod. Di sgôr oedd hi yn erbyn Airbus yn Stebonheath yr wythnos diwethaf ac un yr un oedd hi yn y gêm oddi cartref yn Lido Afan bythefnos yn ôl.

Byddai buddugoliaeth yn cael ei chroesawu ddydd Sadwrn felly ond ychydig o dimau sydd yn dychwelyd o Neuadd y Parc gydag un o’r rheiny felly tybed a fyddai Andy Legg yn ddigon hapus â phwynt unwaith eto’r penwythnos hwn?

“Byddwn, dyw ein record ni yno ddim yn dda iawn ers i mi fod ynghlwm â’r clwb, dydyn ni ddim yn gwneud yn dda iawn ar y cae plastig am rhyw reswm. Ond mae recordiau yno i gael eu torri a dydyn ni ddim yn mynd lan yno yn disgwyl colli, rydym ni eisiau ennill y gêm.”

Fe fydd gan Legg garfan lawn mwy neu lai ar gyfer y daith:

“Mae yna ychydig o amheuaeth dros Craig Moses sydd yn dioddef ag anaf ac mae Ashley Evans wedi ei wahardd yn dilyn cerdyn coch yr wythnos ddiwethaf ond ar wahân i hynny mae pawb ar gael.”

Un chwaraewr fydd ddim ar gael ac sydd wedi gadael Stebonheath yr wythnos hon yw Craig Richards. Mae’r gôl-geidwad wrth gefn wedi symud ar fenthyg am fis i Aberystwyth er mwyn lliniaru ychydig ar eu problemau anafiadau a gwaharddiadau hwy.

Ac hawdd y gall Andy Legg wneud heb Richards gyda’i ddewis cyntaf, Ashley Morris yn chwarae mor dda. Dim ond dwy gôl y mae Morris a Llanelli wedi eu hildio yn y chwe gêm ddiwethaf a dim ond un amddiffyn gwell  sydd yn y gynghrair eleni. Dyna’r newyddion da, y newyddion drwg yw mai amddiffyn y Seintiau Newydd yw’r un hwnnw!

Ond fydd hynny ddim yn poeni gormod ar Rhys Griffiths. Mae’r blaenwr eisoes wedi sgorio pedair gôl ar ddeg y tymor hwn a bydd prif sgoriwr y gynghrair yn awyddus i ychwanegu at ei gyfanswm yn erbyn y Seintiau.

Dyw Griffiths heb sgorio yn y ddwy gêm ddiwethaf a dyw Llanelli heb ennill, pa mor bwysig yw’r blaenwr i’r tîm felly ym marn y rheolwr?

“Weithiau, dyw Rhys ddim yn chwarae’n dda ond fe geith e’ gôl holl bwysig i ni o unman. Yn y ddwy gêm ddiwethaf mae e’ wedi bod yn anlwcus, wedi taro’r traws ac yn y blaen, wedi chwarae’n dda heb gael y goliau. Y peth pwysig i ni mewn gwirionedd yw bod rhywun yn sgorio ac ein bod ni’n cael o leiaf un gôl.”

Efallai y bydd Griffiths a’r gweddill hyd yn oed yn fwy awyddus i sgorio ddydd Sadwrn gan mai gôl nesaf Llanelli fydd milfed y clwb yn Uwchgynghrair Cymru.

Mae hi’n hynod glos tua brig y tabl a gallai buddugolioaeth ddydd Sadwrn godi Llanelli o’r tryddydd safle i’r ail gan gau y bwlch ar y Seintiau ar y brig i ddau bwynt yn unig. Wedi dweud hynny, heb dri phwynt gallant yr un mor hawdd ddisgyn o dan Castell Nedd i’r pedwerydd safle.

Mae Sgorio yn dechrau am 15:00 gyda’r gic cyntaf am 15:45.

Gwilym Dwyfor Parry