Mae’r chwaraewr rhyngwladol Craig Bellamy yn dweud fod gan Gareth Bale ac Aaron Ramsay berffaith hawl i chwarae yn y Gemau Olympaidd.
Mae dyfodol tîm Prydain yn eithaf anneglur ar y foment, gan mai dim ond FA Lloegr sydd yn hapus i’r chwaraewyr gynrychioli’r tîm Prydain.
Mae’r Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru yn pryderu y byddan nhw’n colli’r hawl i chwarae ar y lefel rhyngwladol os wnawn nhw gytuno i dîm Prydeinig yn yr Olympics.
Ond does gan Bellamy ddim pryderon ac mae’n credu y dylai’r unigolion gael y profiad o chwarae a mwynhau’r Gemau Olpympaidd.
Mae lluniau o Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn gwisgo crysau cefnogi tîm Prydain, ac yn ôl Bellamy maen nhw’n ymgeiswyr cryf ar gyfer y tîm y flwyddyn nesaf.
‘‘Mae nhw’n ddigon da i’w gwneud hi. Os y bydden nhw’n cael y cyfle i’w wneud fe fyddwn yn eu cefnogi’’, meddai Bellamy.
‘‘Os gall Gymru gynnwys un neu ddau chwaraewr yn y tîm, gall hyn ddod â phrofiad i’n tîm cenedlaethol’’, ychwanegodd.
Poblogaidd
- 1 Ffrae’r Fedal Ddrama: Pobol Cymru wedi “colli hyder” yn rheolwyr yr Eisteddfod
- 2 Michael Sheen yn lansio cwmni theatr cenedlaethol newydd
- 3 Cau ysgolion unwaith eto yn sgil eira a rhew
- 4 Sector cyhoeddi mewn “argyfwng” sydd angen atebion brys, medd Delyth Jewell
- 5 Sut i gadw’n gynnes dros y gaeaf – canllaw i bobl hŷn
← Stori flaenorol
Elliott Durrell yn ymuno â Wrecsam eto
Treuliodd y chwaraewr canol cae 15 mis ar y Cae Ras rhwng 2014 a 2015
Stori nesaf →
Hefyd →
Cyn-reolwr Abertawe wedi’i benodi’n rheolwr Clwb Pêl-droed West Ham
Mae Graham Potter wedi llofnodi cytundeb dwy flynedd a hanner
1 sylw
Eirion Aman
A dyma’r dyn a thatw Glyndwr ar ei fraich!
Mae’r sylwadau wedi cau.