Rheolwr Cymru, Gary Speed
Mae rheolwr Cymru, Gary Speed, wedi cyhoeddi ei garfan ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Norwy wythnos nesaf.
Mae pedwar enw amlwg yn dychwelyd i gryfhau’r garfan fu’n fuddugoliaethus yn erbyn Y Swistir a Bwlgaria fis diwethaf.
Mae’r ddau Collins, James a Danny yn dychwelyd i’r garfan i ychwanegu at yr osiynau amddiffynnol – tynnodd y ddau allan o’r gemau diwethaf oherwydd anafiadau.
Y ddau arall sy’n dychwelyd o anafiadau ydy Robert Earnshaw o Gaerdydd a Joe Ledley o Celtic.
Mae’r ymosodwr, Earnshaw, yn cario anaf a dal yn amheuaeth ar gyfer gêm Caerdydd yn erbyn Crystal Palace ddydd Sadwrn, ond bydd Speed yn gobeithio ei weld yn ymuno â’r garfan.
Carfan Cymru
Wayne Hennessey (Wolves), Boaz Myhill (West Bromwich Albion- ar fenthyg gyda Birmingham), Darcy Blake (Caerdydd), Danny Collins (Stoke – ar fenthyg gyda Ipswich), James Collins (Aston Villa), Chris Gunter (Nottingham Forest), Adam Matthews (Celtic), Neil Taylor (Abertawe), Ashley Williams (Abertawe), Joe Allen (Abertawe), Gareth Bale (Tottenham Hotspur), Jack Collison (West Ham United), Andrew Crofts (Norwich City), David Edwards (Wolves), Andy King (Caerlŷr), Joe Ledley (Celtic), Aaron Ramsey (Arsenal, capten), Hal Robson-Kanu (Reading), David Vaughan (Sunderland), Craig Bellamy (Lerpwl), Simon Church (Reading), Robert Earnshaw (Caerdydd), Steve Morison (Norwich City), Sam Vokes (Wolves).
Wrth gefn
Lewis Price (Crystal Palace), Neal Eardley (Blackpool), Craig Morgan (Preston North End), Lewin Nyatanga (Dinas Bryste), Ashley Richards (Abertawe), Rhoys Wiggins (Charlton Athletic), David Cotterill (Abertawe), Andy Dorman (Crystal Palace), Brian Stock (Doncaster Rovers), Jonathan Williams (Crystal Palace), Jermaine Easter (Crystal Palace), Ched Evans (Sheffield United)