Rhys Prietsland yn dychwelyd i garfan y Scarlets
Bydd clo Cymru Alun Wyn Jones yn dychwelyd i arwain y Gweilch ar faes y Liberty yn erbyn y Scarlets yfory yng nghyngrhair RaboDirect 12.
Mi fydd ei gyd-chwaraewyr Ryan Bevington, Huw Bennett, Shane Williams a Ryan Jones yn dychwelyd wedi anturiaethau Cwpan y Byd.
Byddan nhw ar y fainc ac yn gobeithio bod eu presenoldeb yn codi hwyliau’r Gweilch ar ôl colli am y tro cynta’r tymor hwn, 28-17 oddi cartref yn erbyn Glasgow.
Nid yw Paul James nag Adam Jones ar gael oherwydd anafiadau.
Mae Rhys Priestland, George North, Stephen Jones a Jonathan Davies wedi dychwelyd i ymarfer i’r garfan y Scarlets ar gyfer yr ornest fawr rhwng ddau ranbarth y Gorllewin nos yfory.
Roedd bachwr y Scarlets Ken Owens wedi dechrau’r gêm ym muddugoliaeth y Scarlets dros Ulster y penwythnos diwethaf, a daeth y mewnwr Tavis Knoyle a’r canolwr Scott Williams oddi ar y fainc gyda Matthew Rees yn dychwelyd ar ôl derbyn llawdriniaeth i’w wddf.
Nid oes angen cymhelliant ar y ddau garfan ynglŷn â’r gêm ffyrnig leol hon, gan fod y Gweilch yn eistedd ar frig y tabl a’r Scarlets yn y seithfed safle.
Gweilch Abertawe v Scarlets Llanelli 6:30 pm Sadwrn (S4C)
Rhys Jones