Rodney Parade
Gyda’r safle newydd wedi ei gwblau ar Rodney Parade mi fyddai Dreigiau Casnewydd wrth eu boddau yn dathlu gyda buddugoliaeth heno, ond gallen nhw fentro y bydd Gleision Caerdydd yn teithio yno’n llawn hyder ar ôl iddyn nhw guro Ulster yr wythnos ddiwethaf.
Bydd y canolwr Jamie Roberts, y prop Gethin Jenkins a’r clo Bradley Davies yn dechrau i’r ymwelwyr gyda’r mewnwr Lloyd Williams ar y fainc.
O ran y Dreigiau fe fydd Aled Brew ar yr asgell a’r bachwr Lloyd Burns ar y fainc.
Mae’r Dreigiau yn chwlio am berfformiad gwell na’r hyn gafwyd yn y golled y penwythnos diwethaf, pan ildio’n nhw hanner cant o bwyntiau i Treviso yn yr Eidal. Ar y llaw arall gall y Gleision fod yn weddol hyderus wrth wynebu eu gwrthwynebwyr lleol ar ôl ennill yn Connacht yn eu gêm ddiwetha’.
Mae’r Gleision wedi colli pum gêm yn erbyn rhanbarthau o Gymru hyd yma yn 2011.
Ac unwaith yn unig mae’r Dreigiau wedi curo yn eu pedair gêm ddiwethaf, a hynny yn erbyn Ulster yng Nghynghrair RaboDirect 12.
Gyda’r Glesion yn bedwerydd yn y gynghrair a’r Dreigiau yn yr 11fed safle, gallwn fentro bydd hi’n gêm gorfforol o gofio nid yw’r Dreigiau wedi colli gartref ar gae Rodney Parade hyd yma’r tymor hwn.
Dreigiau Casnewydd v Gleision Caerdydd 7:05 pm (BBC 2 Cymru)
Rhys Jones