Mi fydd tîm rygbi Cymru yn teithio i Hemisffer y De’r Haf nesaf i chwarae deirgwaith yn erbyn Awstralia, y tîm wnaeth eu curo yn eu gêm olaf yng Nghwpan y Byd a’r tîm fyddan nhw’n herio unwaith eto mewn gêm gyfeillgar yng Nghaerdydd ymhen mis.
Ym mis Mehefin 2012 mi fydd bechgyn Warren Gatland yn wynebu carfan Robbie Deans mewn tair gêm brawf yn Brisbane, Melbourne a Sydney.
Dyma fydd y tro cyntaf ers taith y Llewod yn 2001 i’r Walabîs herio un o brif dimau Ewrop gartref.
“Mae’n amser maith ers i ni gael y cyfle i wynebu gwrthwynebwyr ar ein tomen ein hunain mewn cyfres o dair gêm brawf,” meddai John O’Neill, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Awstralia.
“Rydw i wrth fy modd mai Cymru fydd ein gwrthwynebwyr yn 2012. Rwy’n credu bod pawb yn Awstralia yn deall beth mae’r Cymry yn gallu ei wneud o safbwynt chwarae rygbi gwfreiddiol ac ymosodol.”