Mae tîm rygbi’r Gweilch wedi gwahardd eu chwarewyr rhag defnyddio lliw haul ffug a gwisgo esgidiau lliw mewn ymdrech i gael gwared a’r label “Galacticos” .
Gyda nifer o’r brif chwaraewyr yn gadael, mae’r tîm, sydd wedi cael ei leoli yn Abertawe, yn dweud eu bod eisiau creu penawdau yn seiliedig ar eu perfformiadau ar y cae yn hytrach nag am unrhyw ddefodau harddwch neu ddatganiadau ffasiwn.
O hyn ymlaen fydd chwaraewyr ddim yn cael eu caniatau i ddefnyddio lliw haul ffug na gwisgo esgidiau lliw – oni bai eu bod wedi ennill yr hawl i wneud hynny.
‘‘Nid oedd y lliw haul ffug a’r esgidiau lliw a’r label Galacticos o ddiddordeb i ni mewn gwirionedd,’’ meddai’r hyfforddwr Sean Holly wrth y Daily Telegraph.
‘‘Rydym wedi gwahardd y lliw haul ffug. Dim ond lliw haul go iawn. Os ydych wedi chwarae dros y Gwelich mwy na 50 o weithiau neu 15 o gemau dros eich gwlad, wedyn mi allwch wisgo esgidiau lliw.
‘‘Rydym yn teimlo bod yn rhaid i chi ennill parch, mae’n rhaid i chi ennill yr hawl i wneud rhywbeth’’.
‘‘Rydym yn awyddus i weithio’n galed, rydym am gynrychioli ein rhanbarth yn iawn. Nid ydym am fod yn ffug neu yn gamarweiniol o’r hyn ydan ni,” meddai.
Mae’n edrych yn debyg bod y rheolau newydd wedi bod yn gweithio i’r garfan.
Mae’r Gweilch, sy’n brolio nifer o chwaraewyr ifanc yn eu rhengoedd y tymor hwn, wedi ennill chwech o’r saith gêm cyntaf yn y cynghrair ac wedi sefydlu y safle cyntaf yn nhabl RaboDirect Pro12.
‘‘Rydym yn ceisio cael pobl dda, bechgyn ifanc a fydd yn cynrychioli ein rhanbarth yn y ffordd iawn, ac rwy’n credu ein bod wedi cyflawni hynny ar ddechrau’r tymor,’’ ychwanegodd Sean Holly.