Mae Gogledd Corea wedi ffrwydro adeilad swyddfa gyswllt fewnol Corea, yn ôl swyddogion yn Ne Corea.
Dywedodd gweinidogaeth uno Seoul fod yr adeilad wedi ei ddinistrio yn nhref Kaesong ar y ffin rhwng y ddwy wlad am 2.49yp (6.49yb, amser Prydain).
Roedd Gogledd Corea wedi bygwth dymchwel yr adeilad cyn hyn, wrth iddyn nhw gynyddu’r feirniadaeth am fethiant Seoul i roi’r gorau i ymgyrchwyr yn hedfan taflenni propaganda dros y ffin.
Mae rhai arbenigwyr yn dweud bod Gogledd Corea yn rhwystredig am nad yw Seoul yn gallu ailddechrau prosiectau economaidd ar y cyd oherwydd sancsiynau sydd wedi’u harwain gan yr Unol Daleithiau.