Mae Taioseach Iwerddon Leo Varadkar wedi dweud y bydd yn rhaid i’r wlad baratoi am achosion coronafeirws yn dod i’r wlad o dramor gan nad yw’n gallu ynysu rhag gweddill y byd.

Daw hyn wrth i’r Undeb Ewropeaidd osod cynlluniau i’w haelodau ailagor eu ffiniau.

Dywed Leo Varadkar nad yw’n bosib dileu’r holl risg.

“Nod Iwerddon yn parhau i wthio’r rhif atgenhedlu i lawr i sero os yw’n bosib drwy gadw’r rhif R o dan un,” meddai.

“Yn anffodus does dim un strategaeth yn ei gwarchod yn llwyr rhag y coronafeirws.

“Mae’n rhaid i ni baratoi ar gyfer y risg o achosion yn dod o dramor wrth i ni ailagor i wledydd eraill.”

Yn ôl Leo Varadkar, nid yw llacio’r cyfyngiadau wedi galluogi’r feirws i ddychwelyd “hyd yn hyn”, ac mae’r wlad yn bwriadu ailagor yn llwyr erbyn mis Gorffennaf.

Yn gynharach roedd llysgennad arbennig Covid-19 Sefydliad Iechyd y Byd, Dr David Naborro wedi dweud y byddai “wedi synnu” pe bai Iwerddon angen cyfnod arall o dan warchae.

“Dwi’n meddwl y bydd yno ardaloedd lleol lle bydd clystyrau o achosion yn ymddangos, ac am gyfnod byr o amser byddai’n rhaid i gyfyngiadau symud fod mewn grym,” meddai.

“Yn bersonol rwyf yn credu bod gwarchae llwyr yn annhebygol iawn.”

Daw hyn wedi i bum marwolaeth arall o’r coronafeirws gael eu hadrodd ddydd Mercher (Mehefin 11) ynghyd â 19 achos newydd.

Mae 1,695 o bobol wedi marw â’r coronafeirws yn Iwerddon, gyda 25,231 o achosion wedi eu recordio.