Mae ffigurau gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn awgrymu bod cyfran uwch o’r boblogaeth wedi cael eu dirwyo am dorri’r gwarchae coronafeirws yng Nghymru o gymharu â Lloegr.

Hyd at Fehefin 8, rhoddwyd 2,282 o ddirwyon i bobol yng Nghymru am dorri rheolau’r gwarchae o gymharu â 15,625 yn Lloegr – lle mae’r boblogaeth 18 gwaith yr hyn yw yng Nghymru.

Allan o gyfanswm y ddwy wlad o 17,997, rhoddwyd 523 o ddirwyon yn y pythefnos rhwng Mai 26 a Mehefin 8 – er gall y ffigwr hwn gynyddu wrth i ragor o ddirwyon gael eu prosesu.

Mae’r ffigwr hwn yn cymharu â 1,171 yn y pythefnos flaenorol a 4,796 yn y pythefnos cyn hynny.

Dywed Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu fod dirwyon wedi cael eu rhoi i bobol am yrru i dai pobol eraill, partïon tŷ, casgliadau mawr o bobol a gwersylla.

“Mae ein tacteg o gyd-drafod, egluro ag annog yn parhau i fod yn llwyddiannus,” meddai cadeirydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, Martin Hewitt

“Ers i’r cyfyngiadau gael eu llacio yn Lloegr, mae’r nifer o ddirwyon wedi gostwng yn sylweddol.

“Tu ôl i bob dirwy mae yno achos lle mae rhywun wedi methu gwrando a gwneud y peth iawn.”

Rhan helaeth o’r dirwyon yn cael eu rhoi ddynion ifanc

Dywed Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu fod rhan helaeth o’r dirwyon yn dal i gael eu rhoi i ddynion ifanc, rhwng 18 a 24 oed.

Maent yn fwy tebygol o orfod rhoi dirwy i bobol ar benwythnosau a phan mae’r tywydd yn braf.

Cafodd yr heddlu bwerau i stopio pobol rhag casglu mewn niferoedd a rhoi dirwyon am dorri rheolau’r gwarchae ar Fawrth 27.

Mae’r dirwyon yn cario cosb o £60, sy’n gostwng i £30 os yw’n cael ei dalu o fewn pythefnos ac yn dyblu gyda phob trosedd hyd at uchafswm o £960.