Mae “llond tri ysbyty llawn” o gleifion covid-19 mewn ysbytai Cymru ar hyn o bryd.

Dyna ddatgelodd Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd, yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw.

Dywedodd bod 885 o gleifion coronafeirws mewn gwelyau ysbytai Cymru, ac er bod hynny’n is nag wythnos diwethaf, roedd yn realistig am oblygiadau hynny.

“Mae’n arwyddocaol i mi bod gennym yr hyn sy’n gyfwerth â thair ysbyty llawn o gleifion ledled Cymru,” meddai. “Ac mae’n rhaid i ni gydnabod y pwysau mae hynny’n rhoi ar y system.

“Doedd y cleifion yna ddim yn y gwelyau hyn dri mis yn ôl.”

Diweddariad

Roedd ei ffigurau yn galonogol ar y cyfan:

  • Mae tua 25% o welyau ysbytai yn wag (tua 1,850)
  • Mae 335 o welyau gofal critigol yn rhydd i’w defnyddio
  • Mae 32 wrthi’n derbyn triniaeth gritigol â choronafeirws
    • Dyma’r ffigur isaf ers Mawrth 23
  • Dyw’r rhan fwyaf o bobol sy’n derbyn gofal critigol ddim â covid-19

“Gêm ofalus”

Bellach mae sustem ‘swigod cymdeithasol’ wedi ei chyflwyno yn Lloegr – sustem i helpu’r rheiny sydd yn byw ar ben eu hunain, neu’n rhieni sengl.

A holwyd yr uwch-swyddog , yn y gynhadledd i’r wasg, pryd y byddai’r camau tebyg yn bosib yng Nghymru.

Dywedodd bod angen lleihau’r gyfradd trosglwyddo yng Nghymru, a bod y cyfan yn “gêm ofalus” o beidio â rhoi gormod o ryddid – ac o beidio â bod yn rhy llym chwaith.

Pwysleisiodd bod angen bod yn bwyllog, ac ategodd hefyd y byddai’n cymryd “cryn amser i adfer lefelau normal gweithgarwch y GIG.”