Mae mwy na 300,000 o bobl yng Nghymru wedi bod ar ffyrlo ers mis Mawrth, yn ôl ystadegau newydd gan y Trysorlys.
Mae’r ffigurau’n dangos bod 316,000 o bobl wedi bod ar gynllun saib (CJRS) Llywodraeth y Deyrnas Unedig hyd at fis Mai 31 mewn swyddi ar draws gwahanol sectorau gan gynnwys manwerthu, amaeth a’r diwydiant adeiladu.
Yng Nghaerdydd roedd 36,000 o bobl ar ffyrlo, gyda 23,000 yn Abertawe.
Yng Nghymru roedd 102,000 o bobl hunangyflogedig hefyd wedi manteisio ar gynllun y Llywodraeth gan dderbyn cymorth gwerth £273miliwn.
“Diogelu bywoliaeth”
Dywed Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu bod nhw wedi diogelu incwm 418,000 o bobl yng Nghymru yn ystod pandemig y coronafeirws.
Dywedodd y Canghellor Rishi Sunak bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig “wedi gwneud popeth yn ein gallu i ddiogelu swyddi a busnesau yng Nghymru ac ar draws y DU yn ystod yr argyfwng.
“Mae ein cynlluniau saib digynsail wedi diogelu bywoliaeth miliynau o bobl ac fe fydd yn helpu i sicrhau ein bod ni’n adfer yr economi mor gyflym â phosib.”
Fe fydd y cynllun yn parhau hyd at ddiwedd mis Hydref.