Mae un o weinidogion y Llywodraeth yn pryderu bod pobol yn cefnu ar gynhyrchwyr lleol a siopau bychain yng Nghymru yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

Daeth sylwadau Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, wrth iddi drafod y mater â Phwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, y Senedd bore heddiw (Mehefin 11).

Cododd cwestiynau ynghylch effaith coronafeirws ar y sector yng Nghymru, ac mi wnaeth y gweinidog gydnabod bod pobol yn dewis archfarchnadoedd tros gynhyrchwyr a siopau bychain.

“Yn sicr mae fy agwedd i tuag at siopa wedi newid, oherwydd dw i ond yn siopa unwaith yr wythnos,” meddai. “A dw i ond yn mynd i’r archfarchnad unwaith yr wythnos.

“Rydych yn tueddu prynu pethau [yno] y byddech yn prynu o siopau eraill. Dw i’n credu bod hynny yn amlwg yn broblem.

“Unwaith mae pobol yn cefnu ar arferion, mae’n anodd dychwelyd atyn nhw. Dw i’n credu bod yn rhaid i ni gyd dderbyn bod siopa yn mynd i fod yn wahanol iawn ar ôl y pandemig yma.”

Ategodd, gydag awgrym o optimistiaeth, bod “llawer o gynhyrchwyr bwyd a diod” bellach yn manteisio yn fwy ar y we oherwydd yr argyfwng.

Sefydlu tasglu

Dywedodd ei bod wedi sefydlu tasglu i edrych ar “bob mater sy’n gysylltiedig â bwyd” yng Nghymru, gyda David Lloyd, o Cardiff Food Innovation, yn cadeirio.

Pan gododd cwestiwn am gorbrynu oherwydd panig (panic buying), cynigodd geiriau o gyngor i’r cyhoedd: “Daliwch ati i brynu beth sydd angen arnoch, a dyna i gyd.”