Mae maes awyr Heathrow wedi dechrau cynllun diswyddo gorfodol gan rybuddio na allai sicrhau na fydd rhagor o swyddi’n cael eu colli.
Mae’r cwmni yn cyflogi tua 7,000 o staff ac yn dweud ei fod wedi dod i gytundeb gydag undebau.
Mae eisoes wedi cael gwared a thraean o swyddi rheolwyr.
Dywedodd y prif weithredwr John Holland-Kaye eu bod nhw wedi trio diogelu swyddi allweddol yn ystod argyfwng y coronafeirws “ond nad oedd hynny bellach yn gynaliadwy”.
“Er na allwn ni ddiystyru rhagor o ddiswyddiadau fe fyddwn ni’n parhau i edrych ar opsiynau i gyfyngu ar nifer y swyddi fydd yn cael eu colli.”
Mae British Airways, sydd a’r nifer fwyaf o hediadau o faes awyr Heathrow, eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau i gael gwared a 12,000 o swyddi.
Mae cyfanswm o 76,000 o bobl yn cael eu cyflogi ar draws 400 o wahanol gwmnïau yn Heathrow.
Dim ond 228,000 o deithwyr oedd wedi defnyddio’r maes awyr ym mis Mai, gostyngiad o 97% o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.