Mae Michael Gove wedi dweud wrth Aelodau Seneddol na fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn derbyn estyniad i’r cyfnod trosglwyddo Brexit “o dan unrhyw amgylchiadau.”

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd gweinidog Swyddfa’r Cabinet: “Mae’r cyfnod trosglwyddo yn dod i ben ar Ragfyr 31 2020. Ni fydd y Llywodraeth yn derbyn estyniad o dan unrhyw amgylchiadau.

“Byddai estyniad ddim ond yn oedi’r foment y gallwn gyflawni’r hyn yr ydym eisiau a beth bleidleisiodd y wlad amdano – ein hannibyniaeth economaidd a gwleidyddol.”

“Dim symudiad” mewn trafodaethau Brexit

Mae Michael Gove wedi dweud fod “dim symudiad” wedi bod mewn trafodaethau Brexit, gan gynnwys pysgodfeydd.

“Fe gynhaliodd y ddwy ochr drafodaethau adeiladol, ond doedd dim symudiad ar y materion mwyaf cymhleth lle mae’r gwahaniaethau egwyddorol mwyaf yn bodoli, yn benodol pysgodfeydd, trefniadau llywodraethu a’r prif feysydd trafod.”

Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol Sheryll Murray wedi annog y Llywodraeth i beidio “aberthu mynediad i’n dyfroedd am unrhyw gytundeb masnach â’r Undeb Ewropeaidd.”

Wrth ymateb, dywed Michael Gove: “Byddwn yn rheoli pwy sydd â mynediad i’n dyfroedd ac ar ba delerau.

“Ar ben hyn, bydd mynediad i’n dyfroedd yn dibynnu ar drafodaethau blynyddol.”

Michel Barnier yn “agored i symud ar nifer o faterion”

Mae prif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd Michel Barnier yn dweud ei fod yn hyblyg ar faterion megis pysgodfeydd a chymorth gwladwriaethol, yn ôl Michael Gove.

Gofynnodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol Robert Courts wrtho pa gynnydd oedd wedi cael ei wneud yn y trafodaethau.

“Wel, rydym wedi gwneud cynnydd,” meddai Michael Gove.

“Mae Michel wedi nodi ei fod yn hyblyg ar nifer o faterion megis pysgodfeydd a chymorth gwladwriaethol.

“Ond mae rhai aelodau o’r Undeb Ewropeaidd yn fwy amharod.

“Dwi’n meddwl y byddai o fudd i bawb – aelodau o’r Undeb Ewropeaidd, y Comisiwn, ac wrth gwrs y Deyrnas Unedig –  os byddai Michel Barnier yn defnyddio’r hyblygrwydd mae o wedi ei ddangos yn y gorffennol i sicrhau cytundeb sydd yn gweithio i bawb.”

Gwadu fod y Llywodraeth yn gamblo â’r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb

Mae Michael Gove wedi gwadu fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gamblo â’r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb.

Dywed Cadeirydd Pwyllgor Dyfodol y Berthynas â’r Undeb Ewropeaidd a’r Aelod Seneddol Llafur, Hilary Benn: “Rydym i gyd y gwybod nad yw Michael Gove yn hoff o ragolygon economaidd, ond yn sgil rhybuddion gan fusnesau, gyda’r diweddaraf yn dod heddiw gan y CBI, mae’n rhaid ei fod yn ymwybodol o’r niwed all gael ei achosi i fusnesau os nad yw cytundeb â’r Undeb Ewropeaidd yn cael ei gyflawni yn y pedwar mis nesaf.

“Rydym i gyd eisiau cytundeb, ond gyda busnesau Prydeinig eisoes yn dioddef yn sgil y coronafeirws, beth fydd Mr Gove yn ddweud wrth y busnesau yna fis Ionawr os yw gambl y Llywodraeth yn methu?”

“Dyw’r Llywodraeth ddim yn gamblo,” meddai Michael Gove wrth ymateb.