Mae Llywodraeth Brasil dan y lach ar ôl rhoi’r gorau i gyhoeddi nifer y bobol sydd wedi marw ac sydd wedi’u heintio yn y wlad yn sgil y coronafeirws.

Yn ôl rhai, maen nhw’n ceisio celu’r gwir sefyllfa yno.

Fe fu’r llywodraeth dan y lach ers misoedd, wrth i arbenigwyr eu cyhuddo o gyhoeddi ystadegau diffygiol, gyda rhai yn mynd mor bell ag awgrymu eu bod nhw’n addasu’r ffigurau.

Yn ôl ystadegau swyddogol, mae 34,000 o bobol wedi marw yn y wlad, a bron i 615,000 o bobol wedi’u heintio.

Ddydd Gwener (Mehefin 5), cafodd gwefan y Weinyddiaeth Iechyd, oedd yn cynnwys yr holl ystadegau, ei dileu.

Roedd y wefan yn fyw eto ddoe (dydd Sadwrn, Mehefin 6), ond doedd dim sôn am farwolaethau na nifer y bobol sydd wedi’u heintio.

Dim ond niferoedd y 24 awr blaenorol sydd ar gael erbyn hyn.

‘Ddim yn adlewyrchu’r sefyllfa bresennol’

Yn ôl Jair Bolsonaro, arlywydd y wlad, dydy’r ffigurau “ddim yn adlewyrchu” y sefyllfa bresennol yn y wlad.

Mae un o’i wrthwynebwyr yn honni bod o leiaf un dalaith yn y wlad wedi cyhoeddi ffigurau camarweiniol.

Mae disgwyl i ymchwiliad gael ei gynnal, yn ôl yr wrthblaid, ac mae swyddogion iechyd yn dweud y byddan nhw’n herio penderfyniad Jair Bolsonaro i roi’r gorau i gyhoeddi ffigurau.

Dydy Gweinyddiaeth Iechyd Brasil ddim wedi ymateb i’r honiadau.