Mae dwsinau o wyddonwyr sy’n cwblhau ymchwil sydd wedi’i ariannu gan Mark Zuckerberg, pennaeth Facebook, yn teimlo nad yw’n ddigon llym wrth atal sylwadau dadlueol gan Donald Trump.
Maen nhw’n cyhuddo arlywydd yr Unol Daleithiau o “ledaenu camwybodaeth a datganiadau tanllyd”.
Mae’r ymchwilwyr wedi ysgrifennu at Mark Zuckerberg yn gofyn iddo “ystyried polisïau llymach ar gamwybodaeth a iaith danllyd sy’n niweidio pobol”, yn enwedig yn sgil y protestiadau ar hyn o bryd ynghylch hawliau pobol groenddu.
Maen nhw’n dweud bod camwybodaeth a iaith danllyd yn groes i’w nod o ddefnyddio technoleg i atal afiechydon, gan gynnwys y coronafeirws, gwella addysg i blant a diwygio’r system gyfiawnder.
Yn ôl Debora Marks, un o awduron y llythyr, mae nod yr ymchwilwyr “yn groes i rai o safiadau Facebook”.
Mae mwy na 160 o bobol wedi llofnodi’r llythyr, gyda 10% ohonyn nhw’n gweithio i sefydliadau mae Mark Zuckerberg a’i wraig yn eu cefnogi.
Dan y lach tros neges
Mae’r llythyr yn cyfeirio’n benodol at benderfyniad Mark Zuckerberg i beidio â chosbi na thynnu sylw at neges amheus.
Fe ddywedodd fod Donald Trump wedi cysylltu’r weithred o ddwyn gyda saethu, pan ddywedodd, “When the looting starts, the shooting starts”.
Roedd y neges yn cyfeirio at brotestiadau ar ôl i’r heddlu ladd George Floyd, dyn croenddu ym Minneapolis.
Yn ôl awduron y llythyr, roedd neges Donald Trump yn “ddatganiad clir yn annog trais” ac roedd Twitter wedi tynnu sylw at neges debyg ar y wefan honno.
Mae Chan Zuckerberg, gwraig Mark Zuckerberg, wedi dweud nad yw’r sefyllfa’n amharu ar waith ei sefydliadau.
Ymateb Mark Zuckerberg
Mae nifer o weithwyr Facebook yn beirniadu’r cwmni’n gyhoeddus ar ôl i Mark Zuckerberg wrthod dileu rhai o sylwadau Donald Trump.
Ddydd Gwener (Mehefin 5), fe ddywedodd y byddai’n “adolygu” yr opsiynau ar gyfer tynnu sylw at negeseuon allai fod yn torri rheolau.
“Ein polisi ar hyn o bryd yw, os yw’r cynnwys hwnnw’n annog trais, yna y cam cywir yw tynnu’r cynnwys hwnnw – peidio â gadael i bobol ei weld y tu ôl i faner,” meddai.
“Does dim eithriadau i’r polisi hwn ar gyfer gwleidyddion nac yn sgil bod yn deilwng o fod yn newyddion.”