Mae protestwyr wedi rhoi swyddfa heddlu yn yr Unol Daleithiau ar dân wedi i fideo ar-lein ddangos heddwas yn pwyso ei ben-glin ar wddf dyn du, a’i ladd.
Mae llefarydd ar ran Heddlu Minneapolis wedi dweud fod y protestwyr wedi torri mewn i swyddfa’r trydydd precinct, sydd wedi cael ei ddifrodi’n ddifrifol gan bobl sy’n gandryll ynglŷn â marwolaeth George Floyd.
Dywed y llefarydd fod yr heddlu wedi gadael yr adeilad “er mwyn gwarchod ein heddweision” wrth i fideos ar gyfryngau cymdeithasol ddangos protestwyr, gosod adeiladau ar dân a chynnau tân gwyllt.
Mae busnesau yn Minneapolis wedi gorfod cau a gorchuddio eu ffenestri a’i drysau i atal pobl rhag torri fewn.
Ac mae’r ddinas wedi cau ei system rheilffordd yn ogystal â stopio’r holl wasanaeth bws tan o leiaf dydd Sul (Mai 31).
Mae’r fyddin wedi cael ei galw i’r ddinas i geisio ailsefydlu trefn.
Cefndir
Dechreuodd y protestio ddydd Mawrth (Mai 26) ar ôl i fideo gael ei ryddhau ar-lein o George Floyd yn cael ei lofruddio gan Swyddog Derek Chauvin, sy’n ddyn gwyn.
Pwysodd Derek Chauvin ei ben-glin ar wddf George Floyd am bron i saith munud, wrth iddo stopio gallu siarad, yna stopio symud, cyn stopio anadlu.
Gellir clywed pobl yn y fideo yn pledio â Derek Chauvin i stopio, ac yn ei rybuddio fod George Floyd yn mynd i farw.
Roedd George Floyd wedi cael ei gyhuddo o ddefnyddio siec ffals, gyda’r heddlu’n cael eu galw i archfarchnad Target.
Mae hi bellach wedi dod i’r amlwg ei fod yn ddieuog.
Mae Derek Chauvin a thri heddwas arall oedd yn rhan o’r digwyddiad wedi cael eu diswyddo.
Ymateb yr Arlywydd
Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi galw’r protestwyr yn Mineapolis yn “thugs” cyn rhybuddio, “pan fo’r ysbeilio’n dechrau, mae’r saethu’n dechrau.”
Yn gynharach, roedd Donald Trumps wedi datgan ei fod yn teimlo’n “ddrwg, drwg iawn” ynghylch marwolaeth George Floyd.
“Roedd yn olygfa ysgytwol,” meddai.