Mae’r mis Mai hwn yn debygol o fod y sychaf ar gofnod yng Nghymru ers 124 blynedd.
Dim ond 14.3mm o law sydd wedi disgyn mis Mai yn sgil y tywydd poeth, sydd ddim ond yn 17% o beth fyddai fel arfer yn disgyn yr adeg hon o’r flwyddyn.
Dim ond yn 1896 y gwelwyd llai, pan ddisgynnodd 7.3mm o law.
Ac mae’n debygol y bydd hyn yn parhau, gyda disgwyl i’r tymheredd aros yng nghanol yr 20au am y dyfodol agos.
“Mae pethau’n edrych fel petai nhw wedi setlo yng Nghymru am y dyfodol agos,” meddai llefarydd ar ran Swyddfa’r Tywydd, Grahame Madge.
“Rydym wedi gweld 206 awr o haul y mis hwn, sy’n uwch na’r arfer, a diwrnod poetha’r flwyddyn hyd yn hyn oedd dydd Mercher, Mai 20, ym Mhenarlâg yn Sir y Fflint, gyda thymheredd o 26.4 gradd celsius.
Posibilrwydd o waharddiad ar bibelli?
Does dim cynlluniau ar y gweill ar gyfer gwaharddiad yn ôl y gymdeithas sy’n cynrychioli cwmnïau dŵr y Deyrnas Unedig, Water UK.
“Does yno ddim cynlluniau am waharddiad,” meddai llefarydd ar ran Water UK.
“Fodd bynnag, mae hi wastad werth defnyddio dŵr yn gall, yn enwedig mewn cyfnod lle mae pobl yn treulio mwy o amser gartref.”
Mae’r Asiantaeth Amgylcheddol wedi dweud fod gan y mwyafrif o gwmnïau dŵr “ddigon” o ddŵr wrth gefn.
Tra bod llefarydd ar ran Dŵr Cymru wedi dweud wrth golwg360:
“Fel cwmni dŵr cyfrifol, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth y gallwn ni i amddiffyn ein hadnoddau dŵr er mwyn sicrhau ein bod ni’n cynnal cyflenwadau dŵr ein cwsmeriaid bob amser.
“Nid oes pryderon gennym am lefel ein hadnoddau dŵr ar hyn o bryd – ond yng ngoleuni’r tywydd sych a phoeth diweddar, rydyn ni’n monitro’r sefyllfa er mwyn sicrhau y gallwn reoli ein rhwydwaith i gynnal cyflenwadau dŵr os bydd y tywydd yma’n parhau.”