Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi cadarnhau y caiff y cyfyngiadau eu llacio yng Nghymru yr wythnos nesaf, gan ganiatáu i bobl o ddwy aelwyd wahanol gwrdd â’i gilydd yn yr awyr agored.
Bydd y cyfyngiadau’n dod i rym ddydd Llun. Fodd bynnag, disgwylir y bydd angen i bobl aros yn eu hardal leol ac aros dau fetr oddi wrth ei gilydd.
Mewn datganiad, nodir y bydd Mark Drakeford yn dweud yn nes ymlaen heddiw (dydd Gwener 29 Mai):
“O ddydd Llun, bydd pobl o ddwy aelwyd wahanol yn yr un ardal leol yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored. Rhaid iddynt barhau i [lynu wrth reolau] ymbellhau cymdeithasol a hylendid dwylo llym.
“Rydym hefyd yn gofyn i bobl aros yn lleol – gyda ‘lleol’, rydym yn golygu, fel rheol gyffredinol, peidio teithio mwy na phum milltir o’ch cartref i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws wrth i bobl ddechrau teithio mwy. Bydd eithriadau – er enghraifft, teithio i’r gwaith, ceisio gofal, a siopa am hanfodion os nad ydynt ar gael yn lleol.
“Bydd aros yn lleol yn cadw Cymru yn ddiogel.”
Mewn cyfweliad gyda Radio Wales Breakfast, dywedodd Mr Drakeford mai’r cyngor y mae wedi ei gael gan y Prif Swyddog Meddygol yw bod rhif atgynhyrchu’r haint – yr hyn a elwir yn y Wasg yn R rate – “yn ddim gwell na thair wythnos yn ôl.”
Dywedodd fod hyn yn cyfyngu ar ei allu i wneud newidiadau:
“Gallwn wneud un prif beth, sef o ddydd Llun ymlaen y gall dwy aelwyd yng Nghymru gwrdd yn yr awyr agored cyhyd â’u bod yn aros dwy fetr oddi wrth ei gilydd.”
Aeth Mr Drakeford ymlaen i ddweud:
“Mae pobol Cymru wedi bod yn wych yn glynu wrth y rheolau – ond be’ ry’n ni’n clywed gan bobol yw mai’r peth maen nhw’n ei golli fwyaf yw’r gallu i weld pobl sy’n agos atynt nad yden nhw wedi gallu ers wythnosau. Felly ry’n ni’n defnyddio’r hyblygrwydd bach sydd gennym ni i roi caniatâd i bobl ddod at ei gilydd yn yr amgylchiadau rheoledig yna.”
Feirws yn llai peryglus yng ngolau’r haul
Wrth ateb cwestiwn am fanylion y rheolau, dywedodd Mr Drakeford:
“Byddwch yn gallu cwrdd yn eich gardd. Ond caniatâd i wneud pethau yw hyn, nid gwahoddiad. Rydych chi dal fwyaf diogel o weld cyn lleied o bobl â phosib, ac aros mor lleol a phosib. Os ydych am gwrdd yn yr ardd, gallwch chi [wneud hynny] – cyhyd a’ch bod chi’n gallu aros dau fetr ar wahân. Ni ddylech fynd i mewn i’r tŷ. Ac nid yw hyn yn wahoddiad i fynd i’r ardd, yfed cwrw, a chymysgu gyda’ch gilydd mewn ffordd fydd yn niweidiol i’ch iechyd chi ac i iechyd eraill.
“Mae angen defnyddio synnwyr cyffredin a bod yn gyfrifol. Ni ddylai pobl wneud pethau sy’n risgio torri’r rheolau caeth. Mae’n gam mawr caniatáu pobl i fod wyneb yn wyneb eto, a dw in gwybod y bydd pobl Cymru’n deall bod angen gwneud hynny mewn ffordd ofalus a rheoledig.
“Rhaid i hyn fod y tu allan – mae’r feirws yn llawer llai peryglus i bobl mewn awyr iach ac yng ngolau’r haul.”
Annhegwch?
Wrth sôn am broblemau posib, megis y diffiniad o’r hyn a olygir gan ‘lleol’, dywedodd Mr Drakeford:
“Mae’n anochel, yn anffodus, wrth ddechrau codi’r cyfyngiadau, y bydd peth annhegwch yn y system. Yn ein canllawiau, byddwn yn dweud wrth bobl mai’r hyn a olygir gan ‘lleol’ yw radiws o bum milltir o’ch cartref, ond gall pobol, bydd rhaid iddynt, ddehongli hynny [ychydig yn wahanol] yn lleol oherwydd yng nghefn gwlad efallai nad oes ganddoch chi fferyllydd neu [siop] fwyd o fewn 5 milltir, felly bydd angen mynd ychydig yn bellach. Ond y mwyaf lleol y gallwch chi aros, y mwyaf diogel fyddwn ni i gyd. Achos mae pobl sy’n teithio yn gallu mynd a’r feirws gyda nhw: gallwch fod yn heintus i bobl eraill heb wybod bod gennych y feirws.”
Siopau anhanfodol
O ran siopau anhanfodol, dywedodd Mr Drakeford y dylent “ddefnyddio’r tair wythnos nesaf i baratoi i wneud pethau’n ddiogel. Wedyn os yden ni mewn sefyllfa ymhen tair wythnos i’w caniatáu i ailagor, byddan nhw wedi gwneud popeth i ganiatáu i hynny ddigwydd yn ddiogel.”
Aeth ymlaen i bwysleisio y caiff siopau ddechrau paratoi: “Nid gwastraff tair wythnos yw hyn – mae’n arwydd clir iddynt y gallant ddefnyddio’r tair wythnos nesa i baratoi. Ac yna ymhen tair wythnos, os gallwn ni, gallwn ni roi caniatâd iddynt fwrw ymlaen ac ailagor. Dyna’n dyhead.”