Cafodd 97 o deithwyr a chriw eu lladd wrth i’w hawyren blymio i lawr ar gyrion Karachi yn Pacistan ddoe.

Llwyddodd dau deithiwr i oroesi’r trychineb a ddigwyddodd funudau cyn roedd yr awyren i fod i lanio ym maes awyr Karachi.

Roedd yr awyren Pakistan International Airlines in cludo pobl yn dychwelyd adref ar gyfer gŵyl Eid al-Fitr i ddathlu diwedd mis sanctaidd Ramadan.