Mae Arlywydd Catalonia, Quim Torra, wedi dweud wrth Arlywydd Sbaen, Pedro Sánchez, y bydd yn gwrthwynebu ymestyniad i’r ‘cyfnod argyfwng’ hyd nes y bydd Catalwnia yn adennill “pob grym”.
“Mae Catalwnia wedi bod yn rheoli ei gwasanaeth iechyd am 37 o flynyddoedd. Gwyddom yn iawn sut mae rheoli’r pwerau hyn, a chredwn mai ni ddylai fod yr awdurdod sy’n rheoli,” meddai.
Mae pedwar estyniad o’r ‘cyfnod argyfwng’ wedi bod hyd yma, gan ymestyn yn ôl i 14 Mawrth. Mae’r cyfnod argyfwng yn golygu bod mesurau brys yn eu lle ar gyfer argyfwng y coronafeirws.
Adnoddau
Galwodd Quim Torra unwaith eto hefyd am orfodi gwisgo mygydau wyneb yn gyhoeddus.
O ran materion economaidd, pwysleisiodd mai achub cynifer o swyddi ag sy’n bosibl fyddai’r nod, gan ychwanegu y byddai’n cyflwyno cwyn swyddogol am yr oedi i fudd-daliadau i’r rhai sy’n ddi-waith dros dro.
Gofynnodd yr Arlywydd hefyd am yr holl adnoddau angenrheidiol i fynd i’r afael â’r argyfwng, gan gynnwys y €4biliwn ewro y mae ei Lywodraeth yn amcangyfrif y mae Covid-19 wedi ei gostio i Catalwnia.
Dywedodd Quim Torra hefyd y dylid caniatáu i Gatalwnia gynyddu ei gwariant ei hun.
“Nid yw’n iawn bod gwladwriaeth Sbaen yn gwario ar raddfa uchel iawn tra ein bod ni yn rhedeg allan o adnoddau i ofalu am ein dinasyddion” meddai.
Dim etholiad
Yn gynharach yn y dydd, mewn darn ysgrifenedig yn nodi dwy flynedd ers iddo ddod yn Arlywydd Catalwnia, diystyrodd Quim Torra y byddai’n galw etholiad yn y dyfodol agos.
“Fyddwn ni ddim yn gwneud hynny nawr yng nghanol yr argyfwng iechyd, economaidd a chymdeithasol mwyaf yn y cyfnod diweddar, ” meddai mewn erthygl a gyhoeddwyd yn LA Vanguardia.
“Nid nawr yw’r amser i blymio’r wlad, y sefydliadau a’r pleidiau i broses etholiadol a fyddai’n diddymu’r Senedd a’i gallu deddfwriaethol, a throi’r hyn a ddylai fod yn amser i gydweithredu yn gystadleuaeth ffyrnig rhwng pleidiau.”
Annibyniaeth
Disgrifiodd yr Arlywydd yr angen i ailadeiladu yn sgil y pandemig a galwodd am annibyniaeth i Gatalwnia.
“Rydyn ni angen talent, rydyn ni angen ymdrech, ond mae angen yr holl arfau arnon ni hefyd i allu parhau i symud ymlaen fel cymdeithas yn groes i bob disgwyl.
“Yn syml, rydyn ni’n sôn am adnoddau a sofraniaeth. Ac all fy nghynnig fod yn ddim llai na phob adnodd, pob elfen ar sofraniaeth: hynny yw, annibyniaeth.”