Fyddai dim modd cynnal etholiad Senedd Cymru yn 2021 “dan yr amgylchiadau presennol”, yn ôl sylwebydd gwleidyddol blaenllaw.

Mae disgwyl i’r etholiad gael ei gynnal ar y chweched o Fai’r flwyddyn nesaf, ond gyda’r genedl dan glo mae cryn ddyfalu y bydd yn rhaid ei ohirio.

Yr wythnos hon mi ddywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, bod “dim sicrwydd” y bydd y bleidlais yn mynd rhagddi.