Mae’r grŵp Credit Suisse wedi cyhoeddi ei bod yn cael gwared â 3% o’u gweithwyr ar ôl gostyngiad yn eu helw.

Mae’n dilyn cyfnod llwm iawn yn y diwydiant bancio.

Roedd disgwyl i ail fanc fwyaf y Swistir gyhoeddi elw o bron i 900 miliwn ffranc yn y chwarter yma, ond fe gyhoeddodd y banc mai 683 miliwn ffranc oedd eu helw.

Ym mis Gorffennaf fe gyhoeddodd y banc y byddan nhw’n torri mwy na 2,000 o swyddi ar ôl i’w helw ostwng yn sylweddol.