Fe fydd modd i bobol deithio i mewn ac allan o’r Eidal o Fehefin 3, gan ddod â gwarchae’r coronafeirws i ben.
Fe fydd ffiniau mewnol ac allanol y wlad yn agor eto fis nesaf, wrth i’r llywodraeth ddileu’r angen am gwarantîn 14 diwrnod.
Mae gobaith y bydd y mesurau yn hwb i ddiwydiant twristiaeth y wlad, sy’n werth 13% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth y wlad.
Er hynny, mae Llywodraeth yr Almaen yn gorchymyn ei thrigolion i beidio â theithio tan Fehefin 15, ac mae Ffrainc yn cyhuddo’r Eidal o weithredu o flaen ei chymdogion.
Roedd 106,000 o swyddi wedi’u colli yn niwydiant twristiaeth yr Eidal erbyn mis diwethaf, ac fe allai hyd at hanner miliwn yn rhagor o swyddi fod yn y fantol os nad yw pobol yn teithio dros yr haf, yn ôl arbenigwyr.
Mae lle i gredu bod yr Eidal wedi colli 10bn Ewro (£8.9bn), sef y swm gafodd ei wario gan dramorwyr yn y wlad rhwng Mawrth a Mai y llynedd.
Mae disgwyl hefyd y bydd Llywodraeth yr Eidal yn cynnig talebau i deuluoedd y wlad gael teithio o fewn y wlad a’u gwario mewn gwestai, gwersylloedd a llefydd eraill cyn diwedd y flwyddyn.
Mae awgrym y gallai bariau, bwytai, siopau, a siopau trin gwallt a harddwch agor eto ddydd Llun (Mai 18), ac mae nifer o berchnogion bwytai wedi bod yn protestio ynghylch rheoliadau aneglur a diffyg cymorth.