Roedd Jacinda Ardern, prif weinidog Seland Newydd, wedi methu mynd i mewn i gaffi yn sgil polisi ymbellháu cymdeithasol ei llywodraeth ei hun.
Roedd hi a’i dyweddi, Clarke Gayford, wedi mynd allan am ginio cynnar yn Wellington heddiw (dydd Sadwrn, Mai 16) ar ôl i reoliadau’r coronafeirws gael eu llacio rywfaint.
Ond mae’n rhaid i bobol aros dair metr ar wahân yn y llefydd sydd wedi cael agor eto, ac mae bwytai wedi gorfod addasu eu cynlluniau seddi o ganlyniad.
Er iddyn nhw fethu mynd i mewn y tro cyntaf, fe ddychwelon nhw i gaffi Olive yn ddiweddarach a chael lle yno ar ôl i aelod o staff ddod o hyd iddyn nhw ar y stryd.
“Mae’r prif weinidog yn dweud ei bod hi’n aros, yr un fath â phawb arall,” meddai llefarydd ar ran Jacinda Ardern.
Canmol y prif weinidog
Mae’r prif weinidog wedi cael ei chanmol yn helaeth am ei hymateb i’r coronafeirws yn Seland Newydd.
Fe wnaeth y llywodraeth gau ffiniau’r wlad ym mis Mawrth, ac mae’r canlyniadau wedi bod yn amlwg dros y ddeufis diwethaf.
Dim ond un achos newydd sydd wedi’i adrodd yr wythnos hon.
Mae cyfanswm o 1,498 o achosion wedi bod i gyd, gan gynnwys 21 o farwolaethau.