Mae cannoedd o bobl wedi gorfod ffoi o’u cartrefi wrth i danau gwyllt fynd allan o reolaeth mewn rhannau o ogledd-orllewin Florida.
Mae miloedd o erwau o goed, dwsinau o gartrefi ac adeiladau wedi cael eu llosgi i’r llawr.
Mae’r rhan fwyaf o’r tanau yn ardal ‘Panhandle’ y dalaith tuag at y ffin rhyngddi ac Alabama.
Mae un tân eisoes wedi difa 2,000 o erwau yn y Santa Rosa County, i’r dwyrain o ddinas Penascola, a bu’n rhaid gwagio 1,100 o gartrefi.
Mae rhan o draffordd yr Interstate 10, cyswllt pwysicaf gogledd Florida wedi gorfod cau gerllaw Penascola oherwydd mwg. Does dim adroddiadau o farwolaethau nac anafiadau.