Cafodd 15 o bobl eu lladd wrth i drên yn India daro gweithwyr mudol a oedd yn cysgu ar y cledrau.

Roedd y gweithwyr yn cerdded adref ar ôl golli eu gwaith oherwydd cyfyngiadau ar symud yn sgil yr argyfwng coronafeirws.

“Ar ôl cerdded am tua 22 milltir, roedden nhw wedi blino ac fe eisteddon nhw i lawr i wrth y cledrau i orffwyso, gan syrthio i gysgu,” meddai llefarydd ar ran gweinyddiaeth rheilffyrdd India.

Fe ddigwyddodd y ddamwain yn nhalaith Maharashtra yng nghanolbarth y wlad ddoe.